MRS. JANE THOMAS, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Gorphenaf 20fed, 1877, yn Remsen, New York, Mrs. Jane Thomas, priod Mr. Robert Thomas, yn 69 mlwydd oed. Yr oedd yr hen wreigan yn gwaelu er ys tro, ond y diwedd oedd stroke o'r palsy.

Ymfudasant i'r wlad hon o dre Caernarfon yn deulu lled fawr - merched oll ond un mab, ac y mae yr oll ond y mab wedi priodi.

Felly y mae cartref yr hen frawd Thomas wedi ei dori, ac y mae yn teimlo yn nnig wedi symud at ei ferch Mrs. Lewis, yr hon sydd weddw yn byw ar gyfer pentref Prospect.

Gobeithio fod gan y brawd Thomas gyfaill a lyn. Y Sabboth canlynol ymgynullodd tyrfa luosog i hebrwng ei chorff i fynwent Prospect. Cadwyd moddion yn nghapel Seion, Remsen, a phregethwyd gan yr ysgrifenydd yn Gymraeg, a'r Parch. Mr. Short yn Saesneg. Cymerwyd rhan hefyd gan y Parchn. Robert Evans, Morris J. Williams a John Seth Jones.

Y Drych ~ 9fed Awst 1877.


MRS. JANE THOMAS, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Gorphenaf 20fed, 1877, yn Remsen, New York, Jane Thomas, priod Robert Thomas, yn 69 oed.

Yr oedd yn gwaelu er's tro, ond y diwedd oedd tarawiad o'r parlys.

Ymfudodd gyda'i phriod a'r teulu i'r wlad hon o dre' Caernarfon. Yr oeddynt yn deulu lled. luosog - merched oll ond un mab - ac y mae yr oll wedi priodi ond y mab; ac felly y mae cartref yr ben frawd Thomas wedi ei dori, ac y mae yn teimlo yn hynod o unig yn ei henaint. Ond credwn ei fod yn adnabod y Cyfaiil a lŷn. Y Sabboth canlynol ymgynullodd torf fawr i hebrwng eí chorff i fynwent Prospect. Pregethwyd gan yr ysgrifenydd yn Gymraeg, a chan y Parch. Mr. Short yn Saesneg. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parchn. Robert Evans, J. Seth Jones a Morris Williams. Cynaliwyd y gwasanaeth yn Capel Seion yn Mhentref Remsen.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Medi 1877.