MRS. LYDIA THOMAS, ATHENS, BRADFORD COUNTY, PENNSYLVANIA.
Mai 8fed, 1877, yn Athens, swydd Bradford, Pennsylvania, yn 51 mlwydd, 1 mis a 2 ddiwrnod oed, Mrs. Lydia Thomas, priod Richard R. Thomas, Newborough Arms, Trefriw, Arfon, Gogledd Cymru.Ganwyd Mrs. Thomas yn Bethesda, Gogledd Cymru, ac yr ydoedd yn ferch i'r diweddar fardd William Williams, Gwilym Bethesda. Symudodd Mr. a Mrs Thomas gyda'r plant i America yn 1865, a sefydlasant yn Middle Granville, New York, lle buont am bum mlynedd. Wedi hyny symudasant i Utica, a buont yno tua'r un nifer o flynyddoedd; ac yn ddiweddar sefydlasant yn Athens, Pennsylvania.
Gadawodd Mrs. Thomas ar ei hol, briod a chwech o blant, mewn galar dwfn; ac mae nifer o honynt yn dra bychain. Nid oes gan un bachgen bychan ond un goes, mewn canlyniad i ddamwain a gafodd. Adroddodd y fam yn aml yn ystod ei salwch awydd mawr am gael byw i ofalu am hwnw yn neillduoi. Ei hafiechyd oedd anhwyldeb yr ysgyfaint a'r galon. Bu yn wael am naw mis, a dangosodd oddefgarwch Cristionogol, a bu farw mewn llawn hyder am wlad well a dedwyddwch diddarfod. Diwrnod cyn iddi farw galwodd ei gwr ati a dywedodd wrtho, "Mae fy Nuw yma, byddwch fyw yn dduwiol, a dygwch y plant i fyny yn dduwiol - yr wyf fi yn myned i ffwrdd."
Bu y cymydogion oll yn hynod o dirion a haelionus wrthynt, yn ystod y salwch maith, er mai dyeithriaid oeddynt mewn gwlad ddyeithr. Teimla y teulu na ddarfu i Dduw eu gadael yn y cyfyngder mawr; ac y mae Mr. Thomas a'r plant yn diolch o galon am y caredigrwydd anghyffredin a dderbyniasant.
Cymerodd yr angladd le ddydd Mercher o gapel y Methodistiaid Esgobawl, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. Mr. Cobb, y gweinidog, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. J. B. French, gweinidog y Bedyddwyr.
Ar ôl y gwasanaeth claddwyd y gweddiiiion mewn lle addas yn y cemetery, i'w cadw hyd y tywydd oer, pryd y symudir y corff i gladdfa Middle Granville, New York.
Derbynia Mr. Thomas a'r plant gydymdeimlad dwysaf y cymydogion yn y cylchoedd hyn.