MRS. CATHARINE WILLIAMS, RACINE, WISCONSIN.

Mawrth 14eg, yn Racine, yn y 40fed flwyddyn o'i hoedran, Catharine Williams.

Ganwyd y drengedig yn y Cefn-gwynus, ger Pwllheli, swydd Gaernarfon, Cymru.

Ymunodd â'r eglwys berthynol i'r Trefnyddion Calfinaidd yn y Pentreuchaf, pan yn ieuangc iawn, rhwng 12 a 13 oed. Bu byw yn harddwch i grefydd mewn ieuen^ctyd, ac yn mhob sefyllfa ac amgylchiad hyd ddiwedd ei hoes ymddygodd yn addas i Efengyl Crist.

Yn 19 oed ymunodd mewn priodas â John Williams, ac yn y flwyddyn 1838, ymfudodd gyda'i theulu i'r America. Buont byw ychydig yn Steuben ac yn Ffloyd. Bu iddynt saith o blant, pump o ba rai sydd yn fyw yn bresennol.

Yn y mis Medi diweddaf, ymfudasant drosodd yma, a thrígasant yn Racine. Bu hi yn glaf oddeutu wythnos o'r clefyd a eilw y meddygon lumber abscess, sef cornwyd y meingefn.

Cafodd gystudd trwm iawn, yr hyn a ddyoddefodd yn hynod amyneddgar.

Boreu ddydd Gwener, y 14eg o Fawrth, ehedodd ei henaid i fyd yr ysbrydoedd: a dydd Sadwrn rhoddwyd ei rhan farwol i orwedd yn nghladdfa Racine hyd foreu caniad yr udgorn.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mai 1845