MRS. CATHERINE WILLIAMS, WHITE LAKE, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Gorphenaf 20fed, 1877, yn White Lake, Oneida County, New York, o rywfath o glefyd geriol bilious, Mrs. Catherine Williams, priod Mr. Henry J. Williams, yn 67 mlwydd oed.

Ymfudodd i'r wlad hon yn 1834 o Lanfaelrys, ger Aberdaron, Gogledd Cymru.

Gadawodd briod a chwech o blant i alaru ar ei hol. Claddwyd hi yn nghladdfa White Lake ar yr 22ain - Mr. Oaks yn cyflawni'r gwasanaeth yn y claddedigaeth.

Y Drych ~ 4ydd Hydref 1877.