MRS. MARGARET M. WILLIAMS, SIXTY, STEUBEN, NEW YORK.

Mehefin 16eg, 1877, yn Sixty, Steuben, New York, yn 85 mlwydd oed, Mrs. Margaret M. Williams, gweddw y diweddar William M. Williams, amaethwr cyfrifol a pharchus yn y lle uchod.

Yr oedd yr ymadawedig yn enedigol o le a elwir Wiwen, ger Conway, Gogledd Cymru. Enwau ei rhieni ydoedd Hugh a Mary Jones. Ymfudodd y teulu i'r Talaethau Unedig yn y flwyddyn 1830, ac ymsefydlasant ar dyddyn bychan yn ardal Penmynydd. Yn mhen dwy flynedd ymadawsant oddiyno i Floyd. Daethant oddiyno drachefn yn y flwyddyn 1836 i Sixty, lle y buont, yn preswylio hyd ei marwolaeth yr amser dywededig.

Bu iddynt ddau fachgen. Adnabyddid Hugh Lloyd, eu mab hynaf, fel meddyg medrus a llwyddianus iawn yn Utica a'r ardaloedd cylchynol. Bu farw yn 1866, a chladdwyd ef yn barchus yn South Trenton. Yn mhen y mis ar ei ôl bu ei hanwyl briod farw, gan ei gadael heb neb ond William, ei mab ieuengaf, i ofalu am dani.

Yr oedd Mrs. Williams yn feddianol ar gyfansoddiad naturiol cryfach na'r cyffredin; ond er cryfed ydoedd, ac er mor fywiog a grymus ydoedd ei chyneddfau, daeth yn eglur i bawb fod y gelyn diweddaf wrth ei waith, a pharhaodd i nychu a gwaelu am hir amser. Nid oedd ei chwisg ond ychydig, a'i phoenau yn fawrion, nes yr ehedodd ei hysbryd at Dduw yr hwn a'i rhoes ef. Ei dolur ydoedd y cancer.

Ar y 18fed daeth torf o'i chydnabod yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddi, a chladdasant yr hyn oedd farwol yn ochr ei phriod yn mynwent y lle. Cafodd gladdedigaeth parchus. Cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol ynglyn a'r amgylchiad gan y Parch. H. Humphreys, Utica, a'r ysgrifenydd.

Gadawodd un mab mewn unigedd i alara ar ei hol. Yr Arglwydd a fyddo yn amddiffynfa iddo.

Y Drych ~ 12fed Gorphenaf 1877.