MRS. MARY WILLIAMS, PENIEL, GER OSHKOSH, WISCONSIN.

Hydref 5ed, 1877, yn ardal Peniel, ger Oshkosh, Wisconsin, yn 70 mlwydd oed, Mrs. Mary Williams, gweddw y diweddar David Ll. Williams.

Nid ydoedd yn iach er's deuddeg mlynedd, a bu lawer adeg yn agos i angau. Yr oedd yn dyoddef oddiwrth gaethiwed yn ei brest neu fath o asthma.

Ganwyd hi yn Llanrwst, Gogledd Cymru. Ei rhieni oedd Evan a Mary Lewis, Ty Mawr. Pan oedd yn saith oed symudodd gyda'i rhieni i Liverpool i fyw, yn yr hwn le y priododd. Saer ydoedd ei gwr wrth ei gelfyddyd. Yn mhen yspaid o flynyddoedd ar ol priodi symudasant i Manchester, a thua'r flwyddyn 1848 symudodd y teulu i'r wlad hon. Buont byw ddwy flynedd yn Port Washington, Wisconsin, yna daethant i'r ardal hon.

Bu ganddi naw o blant - oll yn fyw ond un bachgen.

Yr oedd yn aelod eglwysig gyda y T. C., a chafodd y fraint o broffesu crefydd yn ddifwlch ar hyd ei hoes. Bu ganddi deulu mawr, a llawer adeg heb rhyw lawnder mawr yn dod i mewn at eu cynal; ond trwy ei medrusrwydd a'i gofal dibaid, gallodd eu magu yn gysurus a chael dillad gweddus am danynt i ddod i foddion gras. Pedair blynedd a haner yn ol, pan oeddynt wedi dod yn weddol gysurus eu hamgylchiadau - ty newydd wedi ei adeiladu, cafodd y brofedigaeth o gladdu ei phriod, a hithau i raddau mawr wedi colli ei hiechyd; ond gofalodd Rhagluniaeth yn dda am dani pan yn weddw ac wedi colli ei hiechyd - dau o'i phiant anwyl o'i hamgylch yn barhaus, a'r rhai oedd wedi gadael en cartref yn dangos tynerwch mawr tuag ati, yn dod i ymweled a hi yn fynych gyda rhoddion. Os bu plant erioed yn anwyl o'u mam, yr oedd ei phlant hi felly. Bu ei merch ieuengaf, yr hon sydd gartref, yn ei gwylio yn ofalus am y maith flynyddoedd y bu yn wael. Dim yn rhy galed ac yn ormod ganddi ei wneyd iddi.

Fel mam yr oedd wedi enill iddi ei hun y cymeriad o fod yn dyner a gofalus, yn un oedd yn llywodraethu ei thy yn dda. Fel gwraig yr oedd yn siriol a charedig, yn barod yn wastad i wneyd cymwynas os gallai, Fel Cristion, yr oedd iddi air da gan bawb, a chan y Gwirionedd ei hunan. Dydd Llun canlynol hebryngwyd ei gweddillion i fynwent Soar, i'w rhoi i orwedd yn ymyl ei phriod.

Gweinyddwyd ar yr achlysur gan R. Roberts, Ripon, J. Jones a'r ysgrifenydd.

Y Drych ~ 8fed Tachwedd 1877.


MRS. MARY WILLIAMS, PENIEL, GER OSHKOSH, WISCONSIN.

Hydref 5ed, 1877, yn ardal Peniel, ger Oshkosh, Wisconsin, yn 70 mlwydd oed, bu farw Mrs. Mary Williams, gweddw y diweddar David Ll. Williams.

Merch ydoedd i Evan a Mary Lewis, Ty Hen, Llanrwst. Pan tua saith oed, symudodd gyda ei rhieni i Liverpool i fyw. Pan yn 27 oed, ymbriododd yno gyda dyn ieuanc crefyddol oedd yn dilyn y gelfyddyd o saer. Yn mhen ychydig flynyddoedd symudodd y teulu i Manchester i fyw, lle y buont yn dra defnyddiol i achos crefydd, yn enwedig gyda yr Ysgol Sul, a'r cyfarfodydd gweddio.

Yn ngwanwyn y flwyddyn 1849 symudasant i'r wlad hon; ac wedi byw flwyddyn yn Port Washington, Wisconsin., daethant i'r ardal hon. Yr oedd tir Llywodraeth i'w gael y pryd hwnw. Sefydlasant hwythau ar ddarn o hono; ac mae ei phriod yn cael ei hun yn fuan wedi gadael yr hen gelfyddyd, ac yn dilyn y gorchwyl iach o drin tir; a thrwy ei chynildeb a'i threfn dda hi, diwydrwydd ei phriod, a chael peth cymorth gan y plant hynaf, er eu bod yn deulu mawr, daethant yn mlaen yn dda, er nad oedd ganddynt fawr o ddim pan yn dechreu. Ond yr hyn sydd yn goron ar y cwbl yw, fod eu defnyddioldeb at achos yr Arglwydd yn cynyddu yn ól fel yr oedd eu gallu yn chwanegu. Yr oedd ei phriod, yr hwn oedd yn flaenor, o duedd haelionus at yr achos. Byddent yn siarad a'u gilydd pa faint ddylasent roi; a maint bynag farnai ef, byddai hi yn wastad yn berffaith foddlon; ac os byddai y flwyddyn dipyn yn galed, byddai hi yn sicr o gynilo yn y ty, er iddynt fod yn siwr o allu talu yr adduned yn y capel.

Yr oedd ynddi rinweddau gwerth i bawb eu hefelychu; ac hwyrach y goddef terfynau y Cyfaill am unwaith i mi gyfeirio at rai o honynt. Yr oedd y Cyfaill yn gyfaill gwirioneddol iddi. Bu ei phriod, a'i fab ar ei ol, yn ei ddosbarthu am flynyddau. Pe buasai Pawb wedi gwneyd cymaint drosto ag a wnaethai a'i deulu, buasai ei dderbynwyr yn gymaint arall heddyw.

Gadawodd wyth o blant i alaru ar ei hol, ac ni fu plant erioed yn fwy tyner ac anwyl o'u mam. Yr oeddynt oll ond dau wedi gadael aelwyd eu rhieni, eto nid oedd eu teimlad tyner at eu rhieni wedi lleihau dim - yr oedd eu llythyrau mynych a theimladwy yn profi hyny; ie, byddent weithiau yn dod o bell iawn o ffordd i edrych am dani, ac wrth ddychwelyd yn teimlo eu bod wedi cael tal da yn eu mynwes, er y byddai y draul yn fawr.

Os cafodd gystudd maith, cafodd gydymdeimlad yr ardal yn gyffredinol, a phlant tyner i ofalu am dani. Pa bryd bynag y byddai yn teimlo yn waelach, byddai ei merch ieuengaf, Phebe, yn sicr o fod wrth law yn wastad i weini arni, Nid oedd dim yn ormod ganddi i'w wneyd iddi; collai ei chysgu er ei mwyn; collai fyned i'r ysgol, i'r cyfarfod canu a llen yddol, íe, i gwmni llawen ei chyfoedion, er bod adref i ofalu am ei mam gystuddiol.

Mae yn derbyn tâl da heddyw, yn y teimlad hyfryd sydd yn ei mynwes ei bod wedi gwneyd ei dyledswydd. Nid plant yn unig oedd ganddi i'w hanrhydeddu, na, yr oedd ardal gyfan yn ei pharchu, fel gwraig rinweddol a duwiol. Ni fyddai byth yn siarad llawer yn y ty gyda y plant, mwy nag wrth ddyweyd ei phrofiad yn y society, ond yr oedd rhyw arogl esmwyth yn dilyn pob gair a ddywedai yn mhob man. Byddai yn blaen iawn weithiau, eto ni fyddai neb yn digio wrthi, gan fod rhyw argraff ar bob peth a ddywedai ei bod yn caru daioni. Yr oedd ei hysbryd tawel, ei golwg difrifol, a'i hymddygiadau addas yn wastad yn rhwymo pawb a'i hadwaenai i gredu am dani, os elai rhyw un i'r nefoedd, ei bod hi yn sicr o fyned yno.

Bu farw fel y bu fyw, yn dawel, gan dystio fod hyny yn elw iddi. Cafodd gladdedigaeth parchus, teilwng o'i sefyllfa fel mam grefyddol dduwiol a gofalus, ie, fel un fu yn garedig i bob achos da, yn gwneyd a allai i gynal crefydd, a'i gweddiau cystal ag a'i rhoddion. Traddodwyd ei phregeth angladdol oddiar y geiriau, "Od oes neb yn Nghrist, y mae efe yn greadur newydd," a.y.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Gorphenaf 1878.