MR. JOHN H. DAVIES. SLATINGTON, PENNSYLVANIA.

Awst 28ain, 1878, yn Slatington, Pennsylvania, John H Davies, yn 44 mlwydd oed.

Y dydd Sadwrn canlynol claddwyd ef yn barchus yn mynwent. y M. C. yn Slatington. Gweinyddwyd yn yr angladd gan y Parch. Thomas B Thomas, Wilkesbarre, Pennsylvania.

Mab ydoedd yr ymadawedlg i'r diweddar Humphrey Davies a'i bnod, Llanddeiniolen, Arfon, Gogledd Cymru, ond yn ddiweddarach, Proscaeron, Wisconsin.

Saer coed ydoedd wrth ei alwediaaeth. Yr oedd yn ddyn caredig, tawel a diymhongar, ac yn aelod gyda'r M. C.

Gadawodd wraig a thri o blant i alaru ar ei ôl, sef merch henaf Mr. H. D. Fonlkes a'i briod, Middle Granville, New York. Caffed ei weddw alarus gymorth i ymddiried yn Arglwydd Dduw ei thadau, yr hwn yn ei breswylfa sanctaidd sydd yn Dad i'r amddifaid ac yn Farnwr i'r gweddwon.
J. W. MORRIS.

Y Drych ~ Medi 26ain 1878.