MRS. ELLEN EVANS. GRANVILLE, NEW YORK.

Ionawr 12fed,1878, yn 37 mlwydd oed, Ellen, anwyl briod Mr. Evan J. Evans, Granville, New York.

Bu iddi ddeg o blant, ac y mae chwech yn fyw yn awr i alaru ar ei hol, yr hynaf yn 17 mlwydd a'r ieuangaf yn dair blwydd oed.

Yr oedd Mrs. Evans yn ferch fabwysiedig i Ellis a Jane Jones, hen deulu Caerfoty, gynt yn Llanaelhaiarn, swydd Caernarfon, lle y ganwyd hi. Ei henw bedydd oedd Ellen Roberts, a phan oedd tua 18 oed, yn ngwasanaeth Humphrey Davies, Bodychain, daeth i gydnabyddiaeth ag Evan J. Evans, Bryncoch, Llanllyfni, yr hwn a briododd Ebrill yr 2ail, cyn ei bod yn 19 oed.

Aethant i fyw i Bencaenewydd, yn agos i Nebo, Llanllyfni, ac yn amser y diwygiad mawr tua 18 mlynedd yn ôl ymunodd Ellen ag eglwys A. Nazareth, dan weinidogaeth y Parch. John Morgans. Yn mhen y flwyddyn symudasant i Bettres, Tynyweirglodd, o'r hwn le, ddeng mlynedd i fis Mawrth diweddaf yr ymfudasant i America, gan ymsefydlu yn Williamstown, ger Slatington, Pennsylvania. Bu wedi hyny yn byw yn Weaversville, Chapmansville, Douglasvllle, Flicksville a Salem, New York., o'r hwn le y daethant i Granville tua pum mlynedd yn ôl.

Yn mhob man bu hi yn ffyddlon i gadw ei haelodaeth eglwysig. Yr oedd Mrs. Evans yn naturiol garedig a chymwynasgar, ac mewn amgylchiad o selni byddai yn un o'r rhai cyntaf i gynyg ei gwasanaeth gwerthfawr, a hyny dan lawer o anfanteision yn aml. Nid anghofiodd ei chyfeillion a'i chyfeillesau dalu yn ôl iddi yn ei hafiechyd diweddaf, canys yr oeddynt fel am y cyntaf i wasanaetbu arni, ond teg yw dywedyd mai Mrs Thomas Roberts a dra ragorodd arnynt oll.

Dymuna ei phriod gweddw a'i ph!ant amddifad gyfiwyno eu diolchgarwch puraf i'w holl garedigion am hyn, ac am drefn yr angladd. Tarawyd Mrs. Evans yn glaf nos Sadwrn, Rhagfyr 28ain, a dyoddefodd gystudd trwm am dair wythnos, o dan slow typhoid fever. Gobeithiwn ei bod yn gwybod trwy brofiad erbyn hyn am hyfrydwch y nef. Teimlir colled anadferadwy ar ei hol gan ei phriod galarus a'i phlant amddifad.

Claddwyd hi yn barchus y Llun canlynol yn mynwent Middle Granville, lle mae Ellis ac Elizabeth, ei hanwyl blant, yn huno. Ymgynullodd torf fawr o bell ac agos i'w hebrwng yno, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. H. Davies, Middle Granville, sylwadau yr hwn oeddynt yn hynod bwrpasol ac effeithiol. Huned ein chwaer yn dawel dros dymor ei harosiad yn ngwely oer y bedd, a gobeithiwn y caiff eto adgyfodi yn y dydd diweddaf ar ddelw ein Harglwydd Iesu.
WILLIAM. J. EVANS.

Y Drych ~ Ionawr 31ain 1878.