MR. W. GRIFFITHS. IXONIA CENTRE, WISCONSIN.
Mehefin 26ain, 1878, yn Ixonia Centre, Wisconsin, Mr. W. Griffiths, yn 73 mlwydd oed, mewn canlyniad i ddamwain a'i cyfarfu tua thair wythnos yn ôl. Yr oedd y cyfaill Griffiths, fel dyn call, ar ôl cael ei amgylchiadau i ganiatau hyny, wedi penderfynu adeiladu tŷ mwy eang a chyfleus na'r hen dŷ; ac fel yr oedd un boreu wedi gadael cartref ychydig bellder, llai na chwarter milltir, gyda y wagen heb yr un box arni i nol lumber at y tŷ newydd, dychrynodd y ceffylau, a rywffordd nad oes neb a wyr collodd ef ei afael a syrthiodd ac aeth yr olwyn dros ran o'i wyneb a'i frest.Nid oedd y niweidiau allanol yn rhai mawrion, a buwyd am beth amser yn coleddu gobaith cryf fod medrusrwydd meddygol a gofal priod medrus fel nurse yn myned i'w iachau; ond ymddengys fod y niweidiau mewnol a dderbyniodd yn drymach nag yr oeddid yn meddwl eu bod, ac er pob medrusrwydd ac ymdrech profwyd nad oes "bwrw arfau yn y rhyfel hwnw." Yn lle cael gorphen ei dŷ newydd a'i fwynhau, fel y meddyliai, gadawodd ef ar ei haner, yn brawf o gywirdeb y gwirionedd mai "Bwriadau lawer sydd yn nghalon dyn; ond cyngor yr Arglwydd, hwnw a saif."
Dydd Gwener, Mehefin 28ain, ymgasglodd tyrfa anarferol o fawr o wahanol genedloedd i hebrwng y marw i'r tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw. Dangosent yn eglur eu parch i'r ymadawedig fel dyn call, cymydog tangnefeddus a chymwynasgar, a'u cydymdeimlad a'r teulu yn eu galar. Dygwyd y gwasanaeth crefyddol yn mlaen yn y tŷ gan y Parch A. E. Tracy, Oconomowoc, ac yn nghapel y T.C. yr hwn sydd gerllaw y fynwent, gan y Parch. W. Machno Jones; ac un o'r Sabbothau dylynol pregethwyd pregeth angladdol oddiwrth Preg. i. 3-11, yn nghapel yr A. gan yr un.
Brodor o blwyf Llanystumdwy Eifionydd, Gogledd Cymru oedd Mr. Griffiths. Ymfudodd i'r wlad hon yn 1842, ac ymsefydlodd yn agos i Utica; bu yn gweithio gerllaw y dref mewn starch factory am tua phedair blynedd.
Yn 1846 ymbriododd gyda Miss Elinor Williams, ac yn ngwanwyn yr un flwyddyn ymfudasant i'r Gorllewin, gan ymsefydlu yn y lle hwn. Heddyw y mae Mrs. Griffiths wedi ei gadael yn weddw, ond mewn amgylchiadau cysurus; pump o blant yn amddifad o dad tyner a darbodus, ond oll wedi dyfod i'w cyflawn oed. Barnwr y gweddwon a Thad yr amddifaid a fyddo eu rhan, medd
CYFAILL.