MRS. JENNETT HUGHES. RACINE, WISCONSIN.
Medi 11eg, 1878, yn Racine, Wisconsin, Mrs. Jennett Hughes, yn 82 mlwydd oed, priod y diweddar William Hughes, yr hwn a fu farw Medi 15fed, 1871.Daethant i'r wlad hon o Dyffryn Ardudwy, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1841, gydag wyth o blant, a ganwyd y nawfed wedi iddynt ddyfod yma.
Yr oeddynt yn proffesu crefydd yn yr Hen Wlad, ac yn adnabyddus iawn a'r Parch. Richard Humphreys, y Dyffryn, a gwelir eu henwau yn hanes sefydliad eglwys y T.C. yn Racine, yn 1813.
Yn eu tŷ hwy y cynaliwyd yr Ysgol Sabbothol ac y cafwyd y bregeth Gymreig gyntaf yn y ddinas hon; a chawsant y fraint o barhau gyda chrefydd, ac yn ddibrofedigaeth i'r eglwys, hyd y diwedd.
Yr oedd Mrs. Hughes ers blynyddoedd yn analluog i symud o herwydd gwaeledd iechyd: ond derbyniai bob gofal a charedigrwydd gan ei phlant, ac yn enwedig gan ei merch ieuengaf.
Cafodd gladdedigaeth barchus iawn.
JOSEPH ROBERTS.