MR. RICHARD J. HUGHES. WRIGHT'S HOTEL, BROADWAY, SAN FRANCISCO.
Mai 3ydd, 1878, yn Wright's Hotel, Broadway, San Francisco, California, yn 29 mlwydd oed, o'r dropsy, Richard J. Hughes, mab i John a Janet Hughes, Tyn Lon, Edeyrn, Lleyn, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.Daeth i'r America 10 mlynedd yn ôl, a bu yn aros yn Fox Lake a Cambria, Wisconsin., hyd nes yr ymfudodd i Welsh Prairie, Iowa. O'r lle diwedda symudodd i Long Creek, Iowa, ac oddiyno i California yn y flwyddyn 1874, lle y rhoddwyd yr hyn oedd farwol i orphwys hyd ganiad yr udgorn diweddaf.
Heddwch i'w lwch.