MR. WILLIAM DAFYDD, PEACH BOTTOM, PENNSYLVANIA.

DAMWAIN ANGEUOL YN PEACH BOTTOM.

Awst y 19eg, llêch-gloddiwr o'r enw William Dafydd, 42 mlwydd oed, a gyfarfu â damwain echrydus, ar lân yr afon Susquehanuah, yn y lle uchod, yr hon a derfynodd yn angeuawl.

Fel yr oedd yn dilyn ei orchwyl yn y gloddfa lechi, yn ddisymwth syrthiodd darn o'r tir uwchben arno, gan ei daro ar ei ben, a dryllio ei siol yn ddarnau. Bu fyw wedi'n mewn poen dirfawr am chwe' diwrnod.

Ar y 25ain, ehedodd y wreichionen fywiol i fyd yr ysbrydoedd, gan adael gwraig alarus mewn gwlad ddyeithr ar ei ôl.

Pregethodd y Parch. Dafydd Griffiths yn y gladdedigaeth, oddiar Mathew xxv. 13.

Yr oedd y trengedig yn frodor o Landdeiniolen, swydd Gaernarfon ; a daethai i'r wlad yma ar y 3ydd o Fehefin diweddaf, yn y 'John CarrolL' Claddwyd ef yn mynwent y Cwaceriaid, mewn man a ddewisasai ef ei hun yn ddygyddiadol, pan mewn claddedigaeth bythefnos yn flaenorol.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Hydref 1846.