MRS. ELIZABETH JONES. 21 OSWEGO STREET, UTICA, NEW YORK.
Hydref 23ain, 1878, yn 48 mlwydd oed, Elizabeth, priod Mr. Thomas G. Jones, 21 Oswego Street, Utica, New York.Merch ydoedd Mrs. Jones i Owen Owens, Cwrt Penal, Sir Feirionvdd. Ymfudodd i'r wlad hon pan yn bar ieuanc. Yr oedd pedwar o biant, set dau frawd a dwy chwaer. O'r pedwar y mae tri yn fyw yn awr, sef John a William Owens (y rhai sydd ffermwyr cyfrifol), New Hartford, a Mrs. Peter Jones, Elm St., Utica.
Yr oedd Margaret Jones yn ddynes dawel a chyfeillgar, ac yn aelod gyda'r Annibynwyr. Hefyd yr oedd ganddi lu mawr o gyfeillion, y rhai a wnaethant hyny yn hysbys ddydd yr angladd. Byddai bob amser yn siarad yn dda am bawb. Enw ei gwr cyntaf ydoedd William Richards. Wedi bod yn weddw am amryw flynyddau ail briododd â Mr. Thomas G. Jones yn ngwanwyn 1875.
Afiechyd Mrs. Jones ydoedd y darfodedigaeth. Weithiau byddai yn meddwl pe caffai ymadael a'r peswch y buasai yn gwella; ond mor fuan ag y gadawodd y peswch hi yr oedd yn gwanhau yn ddyddiol, a nos y 23ain hunodd yn yr angau. Gadawodd un ferch i alaru ar ei hol. Cafodd bob peth a allesid ei gael ag arian er lliniaru ei dyoddefiadau, ond y cwbl yn ofer.
Y dydd Sadwrn canlynol daeth tyrfa fawr i dalu y gymwynas olaf, pryd y cafodd angladd anrhydeddus; ac y gweinyddwyd yn y tŷ ac wrth y bedd, yn Saesneg, gan y Parch. R. Gwefyn Jones, D. D.
Bydded i Dad y gweddwon a'r amddifaid gysuro y galarwyr.