MR. GRIFFITH H. JONES. LAKE EMILY, WISCONSIN.
Ionawr 14eg, 1878, o'r parlys, yn 62 mlwydd oed, y cymydog tawel a chymwynasgar, Griffith H. Jones, Lake Emily, Wisconsin.Claddwyd ef ar yr 16eg gan dyrfa luosog. Yr oedd Mrs. Jones wedi ei ragflaenu i'r bedd ers 15 mis, felly gadawodd saith o blant hollol amddifad, ond oll mewn amgylchiadau cysurus, ac mewn oedran i ofalu am danynt eu hunain.
Magwyd Mr. Jones yn Tynyffynon, Crafnant, ger Harlech. Meirionydd, Gogledd Cymru. Mab yd- oedd i Humphrey a Mary Jones. Symudodd i'r wlad hon yn 1842, a bu yn byw tua'r Afon Ddu, New York, am naw mlynedd. Yna symudodd i Lake Emily yn eithaf tlawd; ond pan fu farw yr oedd yn perchen eiddo mawr. "Llaw y diwyd a gyfoethoga."
Yr oedd yn aelod difwlch gyda'r M. C. er's tua 40ain o flynyddau, a byddai yn bur gyson a phrydlon gyda moddion gras. Teimlir colled fawr ar ei ól yn yr Ysgol Sul, yn neillduol yn rhif yr adnodau. A wna y meibion gadw lle eu tad trwy ddysgu allan benod o'r Beibl bob wythnos fel y gwnal ef?
Boed aradr amser yn dyner
Wrth 'redig monwentydd y wlad,
Rhag gyru ei swch yn rhy ddwfwn
I feddrod hen gyfaill fy nhad.
OWEN M. WILLIAMS.