MR. GRIFFITH J. JONES. FULLER HOLLOW, WESTERN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Hydref 31ain, 1878, yn Fuller Hollow, plwyf Western, Swydd Oneida, New York, Griffith J. Jones, yn 68 mlwydd oed.Mab ydoedd i John R. a Dorothy Jones, Bryncroes, Swydd Carnarfon, Gogledd Cymru, ac wedi hyny o'r lle uchod. Ganwyd ef yn Nghymru.
Pan yn 13 oed penderfynodd fyned yn forwr, yr hon alwedigaeth a ddylynodd 49 o flynyddoedd. Buwyd am 14 o flynyddau heb glywed yr un gair o'i helynt, fel y meddyliodd pawb ei fod wedi cyfarfod a'i ddiwedd yn y dyfrllyd fedd. Oddeutu chwe' blynedd yn ôl, rhyw fodd neu gilydd, fe glywodd ei chwaer Laura ei fod ar dir y byw! Ond er mwyn cael gwybodaeth slcr aeth i'r Sailor's Directory Office yn New York i ymofyn a wyddent hwy rywbeth am dano. Dywedwyd wrthi ei fod mewn rhyw ardal (ni chawsom ei henw) yn y De. Penderfynodd fyned yno yn ddiymaros ac erbyn iddi gyraedd yno yr oedd wedi symud i le a elwir Charlestown, North Carolina.
Dylynodd ar ei ôl nes cael gafael arno, a dygodd ef adref i Fuller Hollow yn llawen, ac yno y bu hyd ei farwolaeth. Dywedodd ei fod wedi bod yn mhob porthladd trwy'r byd. Nid oedd ei iechyd yn dda er ys cryn dymor, eto yr oedd yn dylyn ei waith yn gyson fel amaethwr. Un diwrnod tarawyd ef gan y palsy, yr hwn a derfynodd ei fywyd yr amser dywededig. Dyoddefodd gystudd caled am dair wythnos yn dawel ac amyneddgar. Yr oedd yn ddyn o dymherau hynaws a siriol, yn gymwynaswr caredig, ac yn llawn o elfenau gwir gyfeillgarwch. Meddai barch mawr i grefydd a'i phroffeswyr, er nad oedd yn grefyddol ei hun.
Sabboth, Tachwedd 3ydd, dygwyd ei gorff gan luaws mawr o'i gyfeillion a'i berthynasau i gael ei gladdu wrth ei fam a'i chwaer ac eraill o'r perthynasau sydd yn gorwedd yn mynwent henafol Steuben, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. Mr. Clark yn Saesneg, a'r ysgrifenydd yn Gymraeg.
Gadawodd bedair chwaer, un o'r rhai sydd yn briod gyda Joseph Jones, Ysw., Westernville, yn nghyd a pherthynasau lluosog a chyfeillion i alaru eu colled ar ei ôl. Yr Arglwydd a'i dyddano oll, ac a roddo iddynt grefydd bur er eu galluogi i fod yn barod i fyned i'r un daith. E. R. HUGHES