MR. HUGH R. JONES. GRANVILLE, NEW YORK.
Ionawr 7fed, 1878, yn Granville, New York, o'r darfodedigath, Hugh R. Jones, yn ei 42 mlwydd o'i oedran.Dyoddefodd gystudd maith yn hynod o dawel. Bu yn nychu am yn agos i dair blynedd.
Tuag wyth mlynedd yn ôl ymnnodd mewn glan briodas â merch y diweddar Barch. William Roberts, Turin, yr hon sydd wedi bod mewn gwirionedd yn ymgeledd gymwys iddo, gan ei bod wedi gweini a gwylio iddo ac arno fel megys y gwna mam dros ei phlentyn anwyl ganddi, a hyny ddydd a nos.
Yr oedd ein cyfaill yn enedigoi o ardal Bethesda, ger Bangor, Gogledd Cymru ac mae ei fam yn byw yn awr yn Caellwyngrydd, ger Bethesda, am yr hwn y crybwyllai gyda pharch yn aml.
Ar ddydd Mercher y 9fed, cyfarfyddodd torf fawr a pharchus o gyfeillion i dalu iddo y gymwynas ddiweddaf, pryd yr hebryngwyd yr hyn oedd farwol i fynwent Middle Granville. Gweinyddwyd yn y tŷ yn Saesneg a Chymraeg yn dra chymwysiadol i'r amgylchiad gan y Parch. Hugh Davies, ac eilwaith ar lan y bedd yn Gymraeg.
Gadawodd i alaru eu colled ar ei ôl weddw ac un plentyn. Duw a'i noddo yw dymuniad llawer heblaw yr ysgrifenydd.
J. A. ERASER.
Y Drych ~ 24ain Ionawr 1878.
MR. HUGH R. JONES. GRANVILLE, NEW YORK.
Ionawr 7fed, 1878, yn Granville, New York, yn 42 mlwydd oed, Hpgh R. Jones, o'r darfodedigaeth.Mab ydoedd i Richard a Mary Jones, o'r Rachub, ger Bethesda, Bangor, Gogledd Cymru. Bu farw ei dad pan oedd ef yu dra ieuauc, ond mae ei fam yn byw yn awr yn Caellwyngrydd, ger Bethesda.
Ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1859, gan lanio yn New York Mehefin 21ain, ac ymsefydlodd yn Fairhaven, Vermont. Yn 1863 symudodd i Salem, New York, ae wedyn yn 1867 i Middle Granville. Ond am y pedair blynedd diweddaf arosai yn Granville.
Tuag wyth mlynedd yn ôl, ymbriododd â Mary, merch y diweddar Barch. William Roberts, Turin. Bu iddynt dri o blant, un o'r rhai sydd yn fyw yn awr. Yn ystod ei nychdod maith nid arbedodd ei briod arian, llafur, na dyfalbarhad er ceisio ei adferu, a gellir dweyd yn ddibetrus, "Yr hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth."
Ar ddydd Mercher, y 9ed, cyfarfyddodd torf fawr o gyfeillion i dalu y gymwynas olaf i'n cyfaiil, pryd y dodwyd yr hyn oedd farwol i orwedd hyd ganiad yr udgorn diweddaf, yn mynwent Middle Granville.
Gweinyddwyd yn y tŷ ac ar lany bedd gan y Parch. Hugh Davies. Gadawodd briod ffyddlon ac un plentyn i alaru eu colled ar ei ôl, a chollasant yn ddiau briod ffyddlon a thad gofalus a thyner.
J. A. FRASER.