MR. DANIEL R. MORRIS. CAMBRIA WISCONSIN.

Gorphenaf 31ain, 1878, yn 63 mlwydd oed, oddigerth ychydig fisoedd, hunodd ein hen gyfaill Daniel R. Morris, Cambria, Wisconsin yn yr angau, trwy dori un neu ychwaneg o lestri y gwaed, pan wrth y g orchwyl o yru y meirch ar medelydd i dori yd. Bu farw mewn ychydig fynydau ar y cae, tua haner milldir oddiwrth y tŷ, yn mreichian ei fab hynaf, sef Daniel.

Cofus genyf pan yn fachgen deng mlwydd oed, tua deugain mlynedd yn ôl, yn chwarel Llanberis yn y rwbel yn rybela, am wyth o frodyr yn gweithio yn y chwarel, saith ohonynt yn yr un bonc, ac oll yn ddigon nerthol a heinyf. Dyma y nifer mwyaf o frodyr oedd yn y gwaith ar y pryd, ac fe allai na bu cynifer o frodyr yn y gwaith wedi hyn. Yr wyf yn meddwl mai y cyntaf o'r brodyr aeth yn nod i angau ydoedd William R. Morris, yr hwn oedd flaenor yn nghapel Cefnywaen, a thad y Parch. William Rowlands, Cefnywaen; ac yn awr y mae saith o'r wyth brawd wedi eu rhifo gyda'r meirw.

Ymfudodd gwrthrych hyn o sylw gyda ei deulu i'r wlad hon yn 1845, a bu yn aros ychydig yn Northampton County, Pennsylvania; ac o Lynntown, Lehigh County, yr ymfudodd i ardal Welsh Prairie, Wisconsin, tua 21 mlynedd yn ôl, efe a'i deulu, ac ymsefydlodd ar ei ffarm, gan alw ei gartref newydd Coed Mawr, er adgof am ei hen gartref yn Llanberis, ac yma y bu fyw nes gorphenodd ei yrfa ddaearol.

Ei nodwedd fel dyn ydoedd un heddychlawn a thawel, ac yr oedd yn gyfaill cywir heb ddim llawer o'r welwch i fi yn perthyn iddo. Yr oedd yn aelod gyda'r T C., a theimiir colled ar ei ôl. Yr Arglwydd fyddo noddfa y teulu yn eu trallod, ac a'u dyddano a'r dyddanwch na fyddo yn troi yn siomedig yn y diwedd. Cafodd ein hen gyfaill gladdedigaeth barchus, y Parch. Rees Evans, Cambria, a'r brawd John R. Joues, Hendref, yn cyflawni gwasanaeth crefyddol y claddu. Cafwyd pregeth angladdol dda gan y Parch Rees Evaas, oddiar 2 Pedr. iii, 14. Heddwch i'w lwch.

Gofynwn fel hyn ar ôl ein cyfaill:

A dynwyd caniadau Daniel - a'i fryd
Ar fro yr archangel?
Ai yn sant glân o dan sêl
Ddygwyd yno'n ddiogel?
W. W. HUGHES.

Y Drych ~ Medi 26ain 1878.