MRS. ELIZABETH MORRIS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Mehefin 29ain, 1878, yn Utica, New York, Mrs. Elizabeth Morris, yn 55 mlwydd, 5 mis a 29 diwrnod oed. Merch ydoedd i Robert a Sarah Parry, Llanrug, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.Ymfudodd i'r wlad hon oddeutu 37 mlynedd yn ôl, ac wedi cyraedd New York ymbriododd â Robert Morris brodor o Capel Cerig, yr hwn a ddaethai drosodd yr un pryd. Ymsefydlasant am ychydig flynyddoedd yn Steuben, swydd Oneida, New York, ac oddiyno symudasant i amgylchoedd Tug Hill a Collinsville, swydd Lewis.
Ganwyd iddynt bedwar o blant, tri o'r rhai ydynt yn fyw yn awr, sef dau fab ac un ferch. Bu ei phriod farw yn 1849. Ychydig llai na dwy flynedd yn ôl symudodd hi i Utica i fyw gyda ei merch. Yr oedd yn fam dyner a gofalus, yn gymydoges heddychlawn a chymwynasgar, a meddai ar gymeriad pur a difrycheulyd. Perchid hi yn fawr gan bawb o'i chydnabod.
Yn ystod blynyddau olaf ei hoes dyoddefodd lawer gan afiechyd, eithr aeth drwy yr oll yn dawel a dirwgnach. Yr oedd yn aelod dichlynaidd gyda y Trefnyddion Calfinaidd, eithr oblegld gwaeledd ei iechyd, ni bu yn alluog i ddylyn y moddion cyhoeddus ond anfynych yn ystod y blynyddoedd diweddaf; ni adawyd hi er hyny yn amddifad o gysur crefydd, yr hyn a barhaodd i'w fwynhau hyd ei mynydau olaf. Diolchai yn fynych iddi gael byw i weled ei phlant wedi tyfu i fyny fel ag i allu gofalu drostynt en hunain, a'r oll o honynt yn aelodau crefyddol. Y mae tair o chwiorydd, ac un brawd iddi yn y wlad hon, ac hefyd un brawd yn Nghymru, set William Hugh Parry, Llanrug.
Cludwyd ei gweddillion i'w claddu i Collinsville, Gorphenaf laf, a gweinyddwyd ar yr amgylchiad yno gan y Parch. J. Jarrett, yn Gymraeg, a chan y Parch. Lewis Williams, ya Saesneg. Oblegid eu bod dan angenrheidrwydd i gychwyn ymaith yn bur foreu y diwrnod hwnw, cynaliwyd gwasanaeth byr y prydnawn blaenorol yn ei thŷ yn Utica, pryd y gweinyddwyd yn Gymraeg a Saesneg gan y Parch. W. Roberts.
Y Drych ~ Gorphenaf 11eg 1878.
MRS. ELIZABETH MORRIS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Mehefin 29ain, 1878, yn Utica, New York, bu farw Mrs. Elizabeth Morris, yn 55 mlwydd, 5 mis a 29 niwrnod oed. Merch ydoedd i Robert a Sarah Parry, Llanrug, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.Ymfudodd i'r wlad hon oddeutu 37 mlynedd yn ôl; ac wedi cyrhaedd New York, ymbriododd â Robert Morris, brodor o Capel Curig, yr hwn a ddaethai drosodd yr un pryd. Ymsefydlasant am ychydig flynyddoedd yn Steuben, Sir Oneida, New York; ac oddiyno symudasant i amgylchoedd CoIIinsville, Sir Lewis. Prynasant ffarm ar Tug Hill, lle bu ei phriod farw, yn y flwyddyn 1859, ac nid 1849, fel yr hysbyswyd yn y Drych.
Ganwyd iddynt bedwar o blant, sef dau fab a dwy ferch, tri o'r rhai sydd yn awr yn fyw, sef dau fab a merch. Yn mhen rhyw ysbaid o amser ar ôl marwolaeth Robert Morrís, gwerthodd Mrs. Morrís y ffarm, a symudodd yn ôl i ardal Collinsville. Prynodd dyddyn bychan, a bu yn gweithio yn ddiwyd, ac yn byw yn gynil, hyd nes y meddianodd y lle, wedi cwbl dalu amdano, yn ôl ei dymuniad. Ond nid oedd yma eto ddinas barhaus; gwaelodd Mrs. Morris o ran ei hiechyd, a gwerthodd y tyddyn bychan hwn, a symudodd i Utica at ei merch, gan feddwl y byddai ychydig o seibiant yn help iddi er adferiad i'w hiechyd. Nid oedd yma eto ddim ond siomedigaeth, fel pob peth y byd hwn; er bod dan ofal y ferch a'r perthynasau, a medrusrwydd y meddygon, gwaelu ddarfu Mrs. Morris, ac ar y dyddiad uchod bu farw, gan adael ar ei hol dri o blant, fel y nodwyd, un brawd yn y wlad hon, a thair chwaer, yn nghyd ag un brawd yn yr Hen Wlad.
Yr oedd yn fam dyner a gofalus, ac yn gymydoges heddychlawn a chymwynasgar, a meddai ar gymeriad pur a difrycheulyd. Perchid hi yn fawr gan bawb o'i chydnabod, yn hen ac yn ieuainc. Yr oedd yn aelod crefyddol gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, a bu yn hynod o ffyddlon tra y caniataodd ei hiechyd, a byddai yn teimlo ei cholled yn fawr pan y methai fyned i foddion gras, yr hyn a fu i raddau helaeth yn y blynyddoedd olaf o'i hoes; a phan oedd ei nerth yn pallu a pherthynasau yn cilio, yr oedd hi yn credu fod yr hwn sydd yn ymddiried yn yr Arglwydd yn aros yn dragywydd.
Ni byddai Mrs. Morris un amser yn rhyw uchel iawn o ran ei phrofiad - dystawrwydd oedd yn hynodi mwyaf ar ei chrefydd hi - teimlad dwys o'i hannheilyngdod fel pechadures, a chariad cynes at Iesu Grist, am iddo ef yn gyntaf ei charu hi. Byddai fel Mair, yn barod i olchi ei draed ef â'i dagrau. Yr oedd hi yn ofalus iawn i ddwyn ei phlant i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Byddai'n pryderu llawer os na byddent yn myned i'r capel, pan y byddai hi yn methu myned.
Yr oedd yn hynod o ffyddlon yn ei chyfraniadau at bob achos da, fel y crybwyllodd un o'n diaconiaid ar ôl ei hymadawiad i Utica - pe buasai yr holl aelodau fel Mrs. Morris, ni buasai eisiau galw'r llyfr o gwbl; ac nid rhoddi o'r hyn a fyddai yn weddill y byddai hi, ond noddî yn helaeth o brinder lawer tro, gan gredu fod Iesu Grist yn abl i gynal yr amddifaid a'r weddw. Yr oedd ganddi barch calon i weision yr Arglwydd, a byddai yn hyfrydwch mawr iddi bob amser gael dangos croesaw a charedigrwydd iddynt. Yr oedd hefyd yn onest yn ei dealings â phawb gyda phethau y bywyd hwn; nid oedd yn cymeryd crefydd yn gochl i anonestrwydd, ond yr oedd yn tarddu allan fel ffrwyth crefydd a sancteiddrwydd. Byddai yn well ganddi gymeryd cam na gwneyd cam â neb. Yr ydym yn credu y gallwn ddywedyd, "Yr hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth."
Gorphenodd ei gorfa mewn llawenydd, a chafodd gladdedigaeth parchus, yr hyn a gymerodd le Gorphenaf laf. Gan fod yn angenrheidiol cychwyn yn foreu y diwrnod hwnw, cynaliwyd gwasanaeth byr y prydnawn blaenorol yn ei thy, pryd y gweinyddwyd yn Gymraeg a Saesoneg gan y Parch. William Roberts, D. D. Cludwyd yr hyn oedd farwol o honi gyda'r cars i Port Leyden, ac oddiyno i dy ei brawd, Mr. Henry Parry; ac ar ôl ychydig o seibiant, gweinyddwyd trwy ddarn a gweddio gan y Parch. Lewis Williams, yna aed yn orymdaith i gapel Collinsville, lle y gweinyddwyd gan y Parchn. James Jarrett a Lewis Williams. Wedi hyd aed yn orymdaith luosog i Tug Hill, lle y rhoddwyd ei chorph i orwedd yn dawel wrth ochr ei phriod a'i merch, hyd foreu caniad yr udgorn diweddaf.
Bydded heddwch i'w llwch, a'r Arglwydd a fyddo yn noddfa i'w phlant, ac a roddo ras iddynt i ymddiried ynddo ef fel "Tad yr amddifaid," ac a fendithio holl gylch y perthynasau â'r grefydd bur a'i prydferthai hi.
Collînsville.... DAVID EDWARDS.