MR. GRIFFITH OWEN. MARCY, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Medi 21ain, 1878, yn Marcy, Swydd Oneida, New York, Mr. Griffith Owen, yn 69 mlwydd oed.Mab ydoedd i Griffith ac Elizabeth Owen, gynt o'r Hafodtalog, ger llaw Maentwrog, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru.
Symudodd ef gyda ei fam, ar ól marw ei dad, i le a elwir Efeluchaf, Sir Gaernarfon. Gogledd Cymru. Pan oedd yn 21 oed, ymbriododd á Gwen, merch i Emanuel a Sarah Pritchard, o le a elwir Felin Llecheiddior Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, yr hon a fu yn ymgeledd gymwys iddo, ac yn ofalus iawn am dano, ac yn cyd-deithio yr anialwch law yn llaw am wyth a deugain o flynyddoedd.
Yn y flwyddyn 1847, ymfudasant i America, gyda dwy ferch, a buont yn byw yn agos i Philadelphia, Pennsylvania. Am y ddwy fiynedd gyntaf ar ól dylod drosodd, ac yn y flwyddyn 1847, symudasant i Swydd Oneida, a buont yn byw tua saith mlynedd yn ardal Frankfort Hill. Yn y flwyddyn 1856, pryniasant dyddyn yn Marcy, yn agos i Utica, New York, a sefydlasant arno, a buont yn cydfyw yn hynod o ddedwydd a llwyddianus y gweddill o'r daith, hyd yr 20fed o mis Medi, pan y daeth angau ac a'i cymerodd ymaith ar fyr rybudd, sef tua deg awr ar-hugain o gystudd caled iawn, sef yr enyniad yn yr ymysgaroedd. Er pob ymdrech meddyg a pherthynasau a chyfeillion, angau a orchfygodd. Buasai yn dda iawn genym pe buasai wedi tori y ddadl, a gwneyd proffes gyhoeddus o Fab Duw, gan ein bod yn credu fod ymryson yn ei feddwl mewn perthynas i grefydd.
Ein rheswm am hyn yw, ei fod yn arfer darllen llawer ar y Beibl, a gwneyd hyny yn y boreu gyda y teulu, a gwnaeth hyny y diwrnod y cymerwyd ef yn glaf. Yr oedd hefyd yn talu parch mawr i foddion gras trwy roi ei bresenoldeb ynddynt, an yn neillduol y cyfarfod gweddi. Yn wir, yr oedd yn rhagori ar lawer sydd yn proffesu crefydd, yn hyn. Hefyd yr oedd yn arfer cyfranu at gynal achos yr Arglwydd yn ei wahanol ranau. Gellir dweyd am Mr. Griffith Owen, ei fod yn gymydog caredig a heddychol - ac fel y dywedodd Dr. Roberts ddydd yr angladd, yr oedd yn ddyn at ei air.
Cafodd gladdedigaeth bur barchus, ar y 24ain o Medi. Daeth torf luosog i'w gladdu, er fod y tywydd yn wlyb. Rhoddwyd ei gorff i orwedd yn mynwent Salem. Gweinyddwyd yn y claddedigaeth gan y Parchedigion William D. Williams a Dr. Roberts, Utica. Yr Arglwydd a ofalo ac a fendithio ti anwyl briod yn ei hunigrwydd, yn nghyd a'r ddwy ferch, a'i berthynasau oll yma ac yn yr Hen Wlad.
WILLIAM. O. ROBERTS.
Y Drych ~ Tachwedd 7fed 1878.
MR. GRIFFITH OWEN. MARCY, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
I, Griffith Owen, of the Town of Marcy, County of Oneida and State of New York, do hereby make, publish and declare, this my last Will and Testament, as follows viz :First. I order and direct my Executive hereinafter named, to pay all my just debts and funeral expenses, and after the payment of the same, I do hereby give, devise and bequeath all my real and personal property to my wife Gwen Owen, to be used and enjoyed by her during the term of her natural life, provided she remains unmarried to be accepted and received by her in lieu of dower, and all statutory provisions in favor of widows.
Second. I do hereby give and bequeath to my grand daughter Winne Thomas, daughter of my daughter Sarah Thomas, the sum of six hundred dollars, to be paid to her after the death of my said wife.
Third. After the death of my said wife, or in case of her marriage, I do hereby give, devise and bequeath, all the rest, residue and remainder of my Estate of every description whatsoever, to my daughters Sarah Thomas and Elizabeth Davies, their heirs and assigns to be divided equally between them, share and share alike.
Lastly. I do hereby nominate and appoint my said wife, sole Executrix of this my last Will and Testament, hereby revoking all former Wills by me made.
In witness whereof, I have hereunto set my hand and seal the eleventh day of November, eighteen and seventy six.
Signed Griffith Owen.
The above instrument was at the date thereof, signed, sealed, published and declared, by the said Griffith Owen, as and for his last Will and Testament, in the presence of each of us, who at his request, at the same time, and in the presence of each other have subscribed our names as witnesses thereto.
Peter Davies Residing at Utica Oneida County.
John Thomas Residing in the Town of Marcy Oneida County.