MRS. MARGARET OWEN. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Tachwedd 10fed, 1878, yn Remsen, New York, Margaret, priod Mr. Thomas Owen, yn 64 mlwydd, 8 mis a 26 diwrnod oed.

Claddwyd hi yn mynwent capel y Nant, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. J. Seth Jones a J. D. Jones yn Gymraeg. a Mr. Babcock yn Saesneg.

Daeth i'r wlad hon yn 1817 o Aberdaron, Lleyn, Gogledd Cymru. Enwau ei rhieni oeddynt William a Gaenor Jones. Bu yn trigianu am tua 7 mlynedd yn nghymydogaeth Utica, ac wedi hyny, hyd nes priododd, tua 12 mlynedd yn ôl, yn Steuben. Yn ddylynol i hyny bu yn byw yn mhlwyf Trenton, ac oddiyno symudodd. i blwyf Remsen, lle y diweddodd ei gyrfa.

Mae iddi ddau o frodyr yn trigianu yn Steuben, set John W. a William W. Jones; gadawodd amryw gefnderoedd hefyd.

Y Drych ~ Tachwedd 28ain 1878.