MRS. CATHERINE OWENS. NEW HARTFORD, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mehefin 7fed, 1878, yn 59 mlwydd oed, Catherine, priod Mr. John Owens, New Hartford, ger Utica, New York.

Y dydd Llun canlynol hebryngwyd ei gweddillion i Forest Hill Cemetery; ac yr oedd yr angladd yn un anghyffredin o luosog.

Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. Mr. Tuttle. Yr oedd Mrs. Owens yn ddynes rinweddol, yn briod dyner a mam ofalus; ac yn fawr ei pharch gan ei holl gymydogion.

Gadawa briod a dau o blant - un mab 23 oed ac un ferch i alaru ar ei hol. Merch ydoedd i David a Catherine Griffiths, Capel y Bwlch, Plwyf Celynin, ger Llwyngwril, Sir Feirionydd, lle y ganwyd hi.

Priododd â Mr. Owens yn 1844, pryd yr ymfudodd y ddau i America, gan ymsefydlu yn Whitesboro am tua dwy flynedd, hyd nes y cymerasant eu trigfan yn New Hartford. Teimlir colled fawr ar ôl Mrs. Owens gan gylch eang o gyfeillion yr ardal.

Y Drych ~ Mehefin 13eg 1878.