MRS. MARGARET DAVIES. DEERFIELD. ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Dymunol fyddai genyf ynghyd a llawer o'm cyfeillion, os cyflewch yr ychydig linellau hyn ar rai o dudaleuau y Cenhadwr, y rhai a gynhwysant ychydig gofnodion o barthed nodwedd grefyddol un o'n hanwyl chwiorydd, yr hon oedd yn aelod hardd yn eglwys y Trefnyddion Calfinaidd yn Utica.Gwrthrych ein cofiant yw Margaret Davies, yr hon oedd wraig i Mr. Rowland Davies, plwyf Maes y Carw (Deerfield), swydd Oneida, talaeth Caerefrog Newydd, yr hon oedd ferch i Hugh a Catharine Davies o'r Bala, Gogledd. Cymru.
Ymunodd Mrs. Davies ag Eglwys y Gwaredwr pan oddeutu ugain oed, yn ninas Mowddwy, ac yn mhen tua dwy flynedd wedi hyny, ymfudodd hi a'i phriod Mr. Rowland Davies i'r America.
Cafodd ei dal yn ddifwlch yn ei phroffes o'i chychwyniad cyntaf hyd ei bedd, a gellir yn briodol ddyweyd am dani ei bod yn rhagori ar ei chyfoedion mewn sirioldeb, haelfrydedd, addfwynder a.y. mewn gair yr oedd prif addurniadau cristion i'w ganfod yu amlwg arni.
Ni bu erioed yn achos o dwrw na therfysg yn eglwys Dduw, o ddechreu ei phroffes hyd nes yr ymadawodd ei henaid anfarwol â'r byd drwg presenol. Ymgadwai yn gaeth oddiwrth ffosydd lleidiog ac afiach cenfigen a thrawsder, ond ymestynai i ddilyn heddwch â phawb, a thra thebygol ei bod wedi cyrhaeddyd y fro sydd a'i llonaid o heddwch.
Pan yn nesu at ymyl y byd mawr tragywyddol tystiai fod crefydd yn beth hyfryd mewn hawddfyd ac iechyd, ond fod ei gwerthfawredd wrth farw tuhwnt i bob amgyffredion. Ychydig cyn croesi'r Iorddonen gofynai Mr. Rowland Davies ei gwr iddi, pa fodd yr oedd ei ffydd? Atebai hithau " Gwan." Gofynai eilwaith, pa fodd yr oedd ei gobaith? Atebai hithau, " Gwan." Gofyuodd drachefn pa fodd yr oedd ei chariad? Atebai, " Sound."
Ac amryw eraill o ddywediadau cyffelyb y rhai ydynt brofion eglurodd i dwylledd ei hegwyddorion; ac ar y 27ain o Fawrth 1846, yn 50 flwydd o'i hoed, gorfu ar ei henaid a'i chorff ymadael a'i gilydd, hyd y dydd hwnw pan y disgyn yr Arglwydd ei hun o'r Nef a.y.; ac ar ddydd ei chladdedigaeth yn nghapel Salem, pregethodd ysgrifenydd y llinellau hyn yn Gymraeg a'r Parch. S. A. Williams yn Saesoneg oddiar Salm 55: 22, "Bwrw dy faich ar yr Arglwydd ac efe a'th gynal dy; ni ad efe i'r cyfiawn ysgogi byth," yr hon adnod oedd yn brofiad melus ganddi yn y mynydau olaf o'i bywyd. Ac wedi gorphen y wasanaeth lle yr oedd lluaws yn wyddfodol, rhoddwyd ei gweddillion marwol i orwedd yn mynwent y lle hyd ddydd mawr yr adgyfodiad. Gadawodd briod hoff a deg o blant i alaru ar ei hol.
Er fod haul ei bywyd wedi machludo yn y fuchedd bresenol, eto y mae genym seiliau cedyrn i goleddu gobeithion fod ei rhan ysbrydoledig wedi etifeddu y fro lle mae haul cyfiawnder yn dysgleirio yn ddi-gwmwl tros yspaid yr un dydd tragwyddol, ar diriogaeth dedwyddol y gwaredigion, tu draw i fyd y gorthrymderau.
Enoch Samuel, Utica.