MRS. MARY PRITCHARDS. (Gynt o Pena'rbronydd, Llandegai.)

Gorphenaf 2ail, 1878, yn Lake Emily, Wisconsin, Mrs. Mary Pritchards, yn 89 mlwydd a 2 fis oed, a chladdwyd hi ar y 4ydd.

Ganwyd Mrs Pritchards yn Brynmadoc, Llanddeiniolen. Merch ydoedd i Thomas Rowland a Catherine Jones, Beddgelert, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Wedi priodi Richard Abram, treuliodd ran o'i hoes yn Pena'bronydd, Llandegai, a magodd yno saith o blant. Collodd ei phriod cyn gorphen magu ei phlant - trwy lawer o lafur ac ymroad y gorphenodd ddwyn ei phlant i fyny.

Yn 1846 ymfudodd i America gyda'i brawd a'i dwy ferch Eliza ac Ann, a sefydlodd yn Proscaeron, Wisconsin; ac ymhen dwy flynedd ymfudodd Mary, y ferch hynaf, gyda'i gwr Rowland Williams ar ei hol, gyda'r hon y treuliodd hi y rhan fwyaf o'i dyddiau yn y wlad hon, a chyda y teulu hwn y gorphenodd ei gyrfa ar y ddaear mewn oedran teg.

Y Nefoedd a dalo yn ddwbl i'r teulu am gyd-ddwyn a gofalu mor dyner am yr hen fam yn Israel yn ei hen ddyddiau.

Ymunodd Mrs. Pritchards a'r eglwys pan yn 14 oed, gyda'r Annibynwyr, yn eglwys yr enwog Arthur Jones, er mai gyda y Trefnyddion yr oedd ei theulu. Soniai lawer am ofal a thynerwch Arthur tuag ati pan yn forwyn ieuanc yn gwasanaethu. Nid peth bychan oedd gwneyd proffes o grefydd y pryd hwnw yn Nghymru i ferch ieuanc 14 oed. Mae yn ymddangos iddi gael ei rhan o "ddirmyg Crist; ond y mae yn ddibetrus genyf fod y ferch ieuanc hon wedi cael gafael ar y peth hwnw nad ydyw yn cilio yn "amser profedigaeth," fel y gwna pob peth nad ydyw yn sylweddol; profodd ei bywyd hi hyny yn y dyfodol.

Nosdweddid ei phroffes grefyddol gan wres a bywiogrwydd sydd mor brin y dyddiau hyn. Cymerai ran yn rhwydd yn y cyfarfod gweddi, os byddai galw arni, yn niffyg digon o frodyr i lanw y cylch.

Gorphenodd ei gyrfa yn gwbwl dawel mewn llawn ymddiried yn ei Cheidwad, o'r hwn y gwnaeth broffes am 75 mlynedd, "Gweddia drosof," ebe wrth ei merch boreu y dydd y bu farw, "am i ni gael mybned drwodd, mi gaf fyned at y seintiau i ganu; oni bydd yn braf?" Y ggeiriau olaf a ddeallwyd ganddi ydoedd, "Cysur cryf yw craig gadarn."

Pregethodd yr ysgrifenydd ei phregeth angladdol y Sabboth canlynol i'w marwolaeth, yn ôl ei dymuniad hi ei hun er's tuag 20 mlynedd cyn ei hymadawiad.
J. R. DANIEL.

Hanes Marwolaeth yn yr America ~ J. R. Daniel.