MR. RICHARD O. RICHARDS.

Bu farw Ebrill 10fed, 1878, yn ei dŷ ei hun, yn agos i Salem, swydd La Crosse, Wisconsin, yn 61 mlwydd oed, Richard O. Richards.

Yr oedd yr ymadawedig yn enedigol o Enlli, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Symudodd i ardal Salem o Remsen, New York, tua'r flwyddyn 1852, gyda'i fam, Mrs. Ellen Richards, yn nghyd â brawd a chwaer, y rhai ydynt oll wedi ei ragflaenu i'r byd tragywyddol er's llawer blwyddyn. Proffesodd Grist pan tuag 21 oed, a bu yn aelod eglwys y Bedyddwyr yn Remsen hyd ei symudiad i Wisconsin, pryd y rhoddodd ei aelodaeth i eglwys Fedyddiedig Seisonig yn La Crosse. Oddi yno, ar ôl corphori eglwys yn Salem, symudodd ei aelodaeth am y tro diweddaf.

Gobeithiwn ei fod yn awr yn aelod yn yr eglwys orfoleddus, lle na fydd raid ymadael mwy a'r dorf ddedwydd sydd yn canu am y gwaed a'i golchodd oddiwrth eu pechodau, ac yn rhoddi eu coronau wrth draed y Gwaredwr a'u prynodd mor ddrud.

Perchid ef yn gyffredinol gan ei gymydogion am ei ysbryd tangnefeddus, a'i deimlad diniwed, a chymwynasgar. Tystiai wrth yr ysgrifenydd, ychydig cyn ei farwolaeth, fod ei hyder yn gwbl yn y Gwaredwr am fywyd tragywyddol.

Gadawodd wraig a dau o blant i alaru ar ei ôl. Claddwyd ei gorph yn mynwent La Crosse ary 12fed. Gweinyddwyd yn y tŷ cyn codi y corph, gan weinidog yr eglwys Fedyddiedig yn Salem, ac ar lan y bedd gan yr ysgrifenydd. Boed heddwch i'w lwch, medd un o'i frodyr galarus.
WILLIAM JONES.

Y Wawr ~ Mehefin 1878.