MRS. CATHERINE ROBERTS. SAN FRANCISCO, CALIFORNIA.
Mawrth 7fed, 1878, yn San Francisco, California, Mrs. Catherine Roberts, yn 66 mlwydd a 4 mis oed.Gweddw ydoedd i David Roberts, gynt o Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Ymfudasant i Boston yn 1846. Ar ôl marwolaeth ei gŵr symudodd Mrs. Roberts at ei merch yn California, gyda'r hon yr ymgartrefodd hyd ei marwolaeth. Dyoddefodd ei chystudd mewn amynedd, a gorphenodd ei thaith "gan edrych ar Iesu."