MRS. MARY ROBERTS. WOLCOTT, WHITE COUNTY, INDIANA.

Ionawr 11eg, 1878, yn nhy ei merch a'i mab yn nghyfraith, Mr. a Mrs. Jennie Walker. Wolcott, White County, Indiana, mewn llawn hyder ffydd a thangnefedd yn yr Arglwydd, yr hen chwaer Mrs. Mary Roberts, yn agos i 89 mlwydd oed.

Gweddw oedd i'r diweddar Griffith Roberts, yr hwn a fu farw yn Michigan yn 1858.

Merch oedd Mrs. Roberts i Evan ac Annie Owens, Penygraig, ger Dinas, Sir Feirionydd.

Ganwyd Mary Owen, Mehefin 2, 1798, ac ymunodd a'r A. pan yn ieuanc, a daliodd yn ddifwlch gyda chrefydd hyd ddiwedd ei hoes.

Yn 1821 ymunodd mewn glan briodas gyda Griffith Roberts, Tyddyn Moch, ger Dolgellau, ac yn fuan wedyn ymunasant gyda'r M. C., a buont yn aelodau rheolaidd a selog yn mhob man y cartrefent. Buont yn byw am flynyddau mewn tyddyn a elwir Rhydwen, o'r hwn le y symudasant i dyddyn a elwir Ffrainc, yn agos i Dolgellau. Oddiyno, gyda phedwar o blant, yn 1842 daethant i America, gan ymsefydlu yn agos i Collinsville a Turin, Lewis County, New York. Yno ganwyd iddynt un ferch, sef Jennie Walker, yn nhŷ hon y cartrefai Mrs. Roberts pan orpenodd daith ei phererindod.

Symudodd y teulu i Michigan, am fod ei merch hynaf yn byw yn Detroit, sef Mrs. Anne Edwards, yr hon a flaenodd ei mam i dir y bywyd agos i 16eg mlynedd. O Michigan aeth i Missouri, ac oddiyno i Indiana, felly ni bu yn troi yn mhlith y Cymry ers tua 26 mlynedd; ond yr oedd wedi dysgu byw yn grefyddol o'i hienenctyd. a'i llygaid bob amser yn cyrchu at y nod. Prif bwnc ei bywyd oedd byw yn dduwiol, gyda pha enwad efengylaidd bynag y syrthiai i'w rhan ymuno ag ef. Ni byddai yn derbyn digon o'r mana ysbrydol, trwy gyfrwng yr iaith Saesoneg, i ymborthi yn gysurus arno; ond yr oedd yn cael gwledd wrth syllu ar yr elfenau, Sabbothan cymundeb, ac yn sugno cysuron o'i Beibl Cymraeg a'i llyfr hymnau Cymraeg. Yr oedd yn un hynod am ddarllen a myfyrio cyfraith yr Arglwydd ddydd a nos; ac er syndod i bawb, wedi iddi fod yn gwisgo gwydrau am flynyddau meithion, tua saith mlynedd cyn ei marwolaeth cafodd ddau lygald newydd ar unwaith, gwell o lawer na'r rhai cyntaf; a byth er hyny darllenai yn gyson heb wydrau o fath yn y byd yr argraffwaith manaf.

Blinid hi yn dost am y ddwy flynedd ddiweddaf gan y crydcymalau, a byddai ei phoenan ar brydiau yn arteithiol, yr hyn a barodd iddi weddio am gael ei chymeryd o'r byd yn ebrwydd wedi iddi fethu cerdded a helpu ei hunan, yn yr hyn hefyd y cafodd ei dymuniad, canys ni pharhaodd attack diweddaf gelyn ei bywyd ond dau ddiwrnod. Dywedai y meddyg fod henaint a gwendid yn erbyn gobaith; rhoddodd dose o morphine iddi, ac aeth adref yn dawel yn ei chwsg.

Claddwyd ei gweddillion yn y modd parchusaf ar yr 13eg, o'r capel Presbyteraidd lle yr oedd yn aelod, pryd y pregethodd y Parch. W. Cambell, ei weinidog, oddiar Gen. 47, 9.

Gadawodd Mrs. Roberts ddau fab ac un ferch i alaru ar ei hol. Heddwch i'w llwch.
W. E. EDWARDS.

Y Drych ~ Mai 30ain 1878.