MRS. MARY G. ROBERTS. BLAENYCAE, WISCONSIN.
Ionawr 31ain, 1878, yn 66 mlwydd oed, Mrs. Mary G. Roberts, Blaenycae, Wisconsin, priod y diweddar John G. Roberts (California). Dyoddefodd gystudd maith yn hynod ddirwgnach, a bu ei dwy ferch yn ffyddlon a charedig iddi yn ei chystudd maith.Genedigol ydoedd Mrs. Roberts o ardal Aberdyfi, Meirionydd, ac yr oedd yn chwaer i David Davies, pregethwr Wesleyaidd ar gylchdaith Dolygellau. Yr oedd yn aelod crefyddol gyda'r T. C., ac yn meddu gradd helaeth o hyder yn yr Arglwydd.
Chwefror 2il, ymgasglodd tyrfa luosog i hebrwng ei gweddillion marwol i fynwent Engedi, pryd y gweinyddwyd gan dri o'r brodyr, a'r Sabboth canlynol pregethodd y Parch. John R. Daniels bregeth angladdol.
Gadawodd bumb o ferched ar ei hol, o'r rhai y mae tair yn briod.
Cysged bellach mewn tawelwch
Yn yr oeraidd wely llaith,
A phan ddelo boren'r codi
Ca fwynhau y gwynfyd maith;
Gwisgo coron, cario palmwydd,
Eistedd ar ei gorsedd wen,
Syllu ar ogoniant Iesu
Fel y mae y bydd heb len.