MRS. SARAH ROBERTS. WATERVILLE, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Gorphenaf 12, 1878, y chwaer Mrs. Sarah Roberts, Waterville, Swydd Oneida, New York, yn 56 mlwydd oed.

Ganwyd hi yn Ffestiniog, Gogledd Cymru, Gorphenaf 1af, 1832. Merch ydoedd i Ellis a Sarah Jones, y rhai a ymfudasant i'r wlad hon yn y flwyddyn 1831, pan oedd hi yn 9 oed, a buont byw am rai blynyddoedd yn nghylchoedd Utica a New Hartford.

Cafodd yr ymadawedig bob manteision crefyddol a allasai ei rhieni duwiol roddi iddi. Codwyd hi i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, yr hyn yn ddiau a gafodd effaith ddymunol arni, er rhoddi iddi gymeriad sefydlog a chadernid meddwl dros egwyddorion da, yr hyn a'i hynododd ynmhlith ei chwiorydd crefyddol drwy ei hoes. Nis gall tafod byth draethu y fraint werthfawr o gael ein dwyn i fyny yn moreuddydd bywyd dan ddylanwad duwioldeb a than ddyferion cysegr Duw.

Pan yn 16 oed - adeg ag y mae llawer yn ddiystyr o bethau crefyddol - gwnaeth hi broffes gyhoeddus o grefydd, a derbyniwyd hi yn aelod rheolaidd o'r eglwys Gynulleidfaol yn Utica, a bu yn ffyddlon gyda chrefydd am 40 mlynedd.

Yn 1818, pan yn 26 oed, ymunodd yn y stad briodasol â Mr. Thomas Roberts, Waterville, yr hwn oedd yn weddw ac iddo ddau o blant. Bu iddi hithau dri o blant o hono, ac y mae y pump yn fyw, ac mewn dwfn alar gyda eu tad o golli un o'r mamau mwyaf tyner a gofalus. Am y 30 mlynedd y bu yn briod cafodd Mr. Roberts ynddi holl rinweddau gwraig dda. Fel gwraig bu yn ffyddlon iddo - cywir i'w hymddiried, diwyd yn ei galwedigaeth, yn amyneddgar mewn amgylchiadau dyrus, ac yn meddu gallu i lywodraethu ei hun a'i theulu ar bob rhyw adeg. Trwy ei chynildeb hi a'i ddiwydrwydd yntau daethant i amgylchiadau cysurus, ac i feddiant o gyfoeth lawer.

Fel mam, hynododd ei hun yn ei gofal a'i thynerwch tuag at ei phlant, gan wneuthur ei goreu iddynt yn mhob ystyr, yn ysbrydol a thymorol, gan ddysgu iddynt ymwadu a hwy en hunain - ofni Duw, parchu dyn, ac ymgadw oddiwrth bob rhith drygioni. Mewn rhan, coronwyd ei llafur a llwyddiant. Cafodd y fraint o'u gweled oll wedi codi i fyny yn anrhydedd i gymdeithas, ac yn gysur iddynt hwythau fel rhieni. Anmhosibl gweled teulu yn talu mwy o barch, ac yn dangos mwy o gariad at eu mam na'r teulu hwn. Gwelwyd hyn pan oedd hi yn iach, gwelwyd hyn pan oedd hi yn sal, a gwelwyd hyn pan oedd yn tynu ei hanadl olaf. Yr oeddent wedi ymglymu a'u gllydd i'r fath raddau fel yr oedd y syniad o ymadael yn rhwygo pob mynwes yn y teulu. Cawsant hwy hi yn fam dyner a gofalus, ac ad-dalwyd hi yn ôl yn yr un coin, buont hwythau yn dyner a gofalus o honi hithau. Fel cymydoges, yr oedd yn caru gwneyd daioni i bawb o'i chwmpas, yn enwedig i'r tlawd a'r amddifad. Yr oedd ei chalon yn gartrefle i garedigrwydd. Yr oedd yn barod bob amser, ac allan o amser, i weini lles i'w chymydogion. Bu ei gwenau yn gysur i'r trallodedig, a'i geiriau yn gordial i'r gorthrymedig.

Yr oedd iddi air da gan yr holl gymydogion fel un hawddgar, garedig a chymwynasgar. Fel aelod crefyddol, bu yn ffyddlon hyd y gallodd. Nid da ganddi esgenluso moddion gras a chynulliadau crefyddol, fel mae arfer rhai. Yr oedd ganddi barch calon i holl ordinhadau tŷ Dduw. Yn y tair blynedd diweddaf o'i hoes amddifadwyd hi o iawer o foddion gras o herwydd afiechyd y teulu. Bu ei phriod yn sal am rai misoedd yn agos i angau, ac yr oedd ei phryder gymaint yn ei gylch fel na adawai mo hono na dydd na nos nes yr adferwyd ef i'w gynefinol iecbyd - am hyn y diolchodd lawer i Dduw. Wedi hyn wele ei hanwyl ferch yn cael ei chymeryd yn glaf, yr hon sydd wedi bod felly am dair blynedd; ond ar hyn o bryd yn well. Bu hithau mor wael fel yr oedd pob gobaith am wellad wedi darfod, a thrwy hyn ymddifadwyd ein chwaer Mrs. Roberts o gyfleusderau crefyddol braidd yn hollol y tair blynedd diweddaf o'i bywyd. Ond byddai darnau o'r pregethau a wrandawodd, y cyngorion lawer a glywodd, a'r adnodau luaws a ddysgodd, yn rhoddi cysur mawr iddi yn yr adeg gymylog a thywll yma. Eithr pan dechreaodd y cymylau duon wasgaru, a gobaith am adferiad iechyd i'w merch anwyl, yr hon a garai fel ei hun, wele hi ei hun yn cael el tharo yn sal.

Ni feddyliodd hi ac eraill fod dim niwed rhagor na'i bod wedi cael ychydig anwyd. Fel hyn y bu am rai wythnosau heb deimlo dim gwaeth. Ymgynghorwyd a'r meddyg, ac nid oedd yntau yn teimlo un pryder yn ei chylch; ond aeth yn waeth, waeth, ac er holl ymdrech meddygon bu y chwaer Mrs. Roberts farw y dydd crybwylledig, gan adael priod a phump o blant i alarn ar ei hol, yn nghyd a brodyr a chwiorydd, a llu mawr o berthynasau a chyfeillion.

Daearwyd hi ar y 14eg yn ngwydd tyrfa fawr, pan y gweinyddwyd yn y tŷ ac wrth y bedd gan Williams, Plainfield, yn Gymraeg, a Williams, Waterville, yr Seisnig. Yr Arglwydd a fendithio yr holl deulu galarus yma a phenderfyniad diysgog i fyw bywyd eu mam fel y byddo iddynt eto i gyfarfod mewn gwlad na raid ymadael mwy. Gras Duw fyddo yn gynorthwy i'n hanwyl frawd yn hwyrddydd bywyd i ddwyn y groes chwerw hon; ac hefyd i'n hanwyl chwaer ieuanc yn ei chystudd a'i gwaeledd presenol, ac a'i hadfero hi eto yn ôl i'w chynefinol iechyd, ydyw dymnniad ei gwir gyfaill. B. H. W.

Y Drych ~ Medi 12fed 1878.