MR. WILLIAM Y. ROBERTS. NEW ORLEANS, LOUISIANA.

Medi 8fed, 1878, yn New Orleans, Louisiana, o'r dwymyn felen, William Y. Roberts, yn 30 mlwydd oed.

Ganwyd ef yn Dolgellau, Meirionydd Gogledd Cymru, ac yr oedd yn America er's nifer o flynyddoedd.

Claddwyd ef yn barchus y dydd Iau canlynol. Cymerodd yr angladd le o'i breswylfod, 57 Gasdent Street.

Yr oedd gan yr ymadawedlg nifer o gyfeillion yn St. Louis, Missouri, lle yr arferai drigianu; ac mae ewythr iddo, Morgan Williams, yn byw yn Rome. New York.

Yr oedd yn ddyn ieuanc crefyddol, a pherchid ef yn fawr gan bawb oedd yn ei adnabod.

Y Drych ~ Medi 26ain 1878.