MRS. ELIZABETH SOLOMON. MIDDLE GRANVILLE, NEW YORK.

Mai 1af, 1878, yn Middle Granville, New York, Elizabeth, anwyl briod Mr. Llewelyn Solomon, o'r darfodedigaeth, yn ei 30 mlwydd o'i hoedran.

Ymfudodd i'r wlad hon gyda'i mam weddw yn nghyd a dwy chwaer tua 18 o flynyddau yn ôl o ardal Bethesda, ger Bangor, Gogledd Cymru.

Chwefror 12ed, 1866, rhwvmwyd y chwaer ieuanc hon dan amod priodasol gyda Llewelyn Solomon, a bu iddynt bump o blant, pedwar o ba rai sydd yn fyw i alaru eu colled ar ôl mam dyner a thra gofalus, a'r ieuengaf ond pum wythnos oed pan y bu farw ei fam. Dygwyd i i fyny yn grefyddol o'i mebyd, a pherthynai i'r enwad Annibynol. Cafodd ei derbyn yn aelod rheolaidd pan yn 13 mlwydd oed, a chawn na bu yn achos tramgwydd nac yn wrthrych cerydd yn ystod ei hoes. Yr oedd wedi casglu gwybodaeth Feiblaidd eang, a thrysorodd lawer o air Duw yn ei chof; yr oedd iddi allu rhagorol i ddysgu, a byddai yn gallu efrydu meddwl Duw yn ei air gyda mwy o hyfrydwch na dim a ddarllenai.

Cefais fantais i wybod hyn, oblegid bu am yn agos i dair blynedd yn fy nosbarth yn yr Ysgol Sul, a chefais gymaint o lafur mewn dysgu allan ganddi hi ag a gefais gan yr holl ddosbarth gyda'a gilydd.

Cyn marw galwodd ar ei phriod digrefydd at erchwyn ei gwely i ysgwyd llaw ag ef am y tro diweddaf am byth, a thaer erfyniodd arno am fod yn garedig wrth y plant ac wrth ei mam weddw oedranus; ac meddai mewn ton ddifrifolach fyth - "A wnewch chwi addaw wrthyf y bydd i chwi fyw gwell bywyd yn y dyfodol; byw y gweddill i Duw; a ewch chwi i berthyn i eglwys Dduw?" A'i phriod yntau a'i ben yn ddyfroedd a'i lygaid yn ffynonell o ddagrau a addawodd yn sobr a difrifol iddi y byddai iddo gydymffurfio a'i chais. Duw a'i cynorthwyo i gyflawni ei adduned.

Ar y 3ydd daeth tyrfa fawr o bell ac agos, o berthynasau a chyfeillion, i hebrwng yr hyn oedd farwol i fynwent y lle uchod, pryd y gweinyddwyd yn y tŷ ac ar lan y bedd gan y Parch. Hugh Davies.
JOHN A. FRASER.

Y Drych ~ Mehefin 13eg 1878.