MR. ELLIS THOMAS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
HUNANFYWGRAFFIAD Y DIWEDDAR MR. ELLIS THOMAS.
Ganwyd fi yn Tan y Castell, Penantllyn Fach, Llanuwchllyn, Gogledd Cymru, Ebrill 2ail, 1863.Enwau fy rhieni oeddynt Dafydd a Margaret Thomas, a bu iddynt 10 o blant, o'r rhai y mae pump wedi eu rhifo gyda phreswylwyr pyrth y bedd.
Symudodd fy rhieni i blwyf Meifod, Sir Drefaldwyn, yn y flwyddyn 1829, ac yn y lle hwn y magwyd pedwar o honom ni (y plant). Ni chefals nemawr o fanteision addysg, gan fod fy nhad yn llafurwr dlawd, ac ar ei orau yn cael y ddau ben yn nghyd; ond gwnaeth fy nhad ei oreu i hwylio fy nghamrau yn llwybrau rhinwedd, ac y mae dylanwad ei weddiau a'i gyngorion a'i esiamplau wedi ei gerfio ar lech fy nghalon mor ddwfn, fel na ddichon helyntion y byd ei ddileu.
Dylwn grybwyll fy mod wedi cael manteision yr Ysgol Sabbothol er yn blentyn, ac yr ydwyf yn mawrhau y fraint anhraethol hon. Dechreuais ddysgu gwaith gof cyn cyraedd 14 oed, ac yr ydwyf yn parhau i ddylyn yr alwedigaeth hono hyd yn hyn.
Derbyniwyd fi yn aelod eglwysig yn mis Mawrth, 1847, yn Meifod, o dan weinidogaeth Hugh D. Pugh, yr hwn erbyn hyn sydd wedi marw. Yn 1848 ymunais eg eglwys Seisnig yn Elsmere, Sir Amwythig, a symudais oddiyno i Croesoswallt, i ofal y Parch. Robert Thomas. Yn mhen ychydig amser symudais i blwyl Ceri, yn agog i Drefnewydd, a chefais y fraint o ymano a'r eglwys Gymraeg yno o dan ofal Mr. Pugh, yr hwn a'm derbyniodd yn aelod yn Meifod.
Ar y 3ydd o Fawrth ymunais mewn priodas gyda Miss Ann Hughes, o blwyf Garthbeibio, Sir Drefaldwyn, ac ar y 14eg o'r un mis cychwynasom o Liverpool a'n gwynebau tua'r America, a chyrhaeddasom Utica Ebrill yr 8fed. Ymunodd fy mhriod a minau ag eglwys Bethania, Marcy, yr hon oedd o dan ofal y Parch. William. D. Williams. Buom yn aros, yn Frankfort, Herkimer County, y rhan gyntaf o'r flwyddyn, ac yn mis Hydref o'r un flwyddyn daethym i aros i Utica; ac yr wyf wedi cael y fraint o fod yn aelod yn yr eglwys Gynulleidfaol hyd y dydd hwn.
Yr oeddwn wedi cyraedd llawn 40 oed cyn anturio cyfansoddi llinell fy hunan; y mae pob llinell a gyfansoddais yn ffrwyth myfyrdod yn yr efail, ac wedi ei ysgrifenu yn nghanol swn morthwylion.
Y Drych ~ Tachwedd 14eg 1878.
MR. ELLIS THOMAS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
I, Ellis Thomas, of the City of Utica, County of Oneisa and State of New York, being of sound mind and memory, do make, ordain, publish and declare this to be my last Will and Testament, that is to say :After all my lawful debts are paid, and discharged, I give, devise and bequeath to my beloved wife, Ann Thomas, her heirs and assigns, all property, both real and personal, of which I may be possessed at the time of my death.
Likewise, I make, constitute and appoint my said wife Ann Thomas to be my Executor of this my last Will and Testament, hereby revoking all former Wills by me made.
In witness whereof, I have hereunto subscribed my name, and affixed my seal the eighth day of February, in the year of our Lord, one thousand eight hundred and seventy six.
Signed Ellis Thomas.
The above instrument, consisting of two sheets, was at the date thereof subscribed by Ellis Thomas, in the presence of us, and each of us, he at the time of making such subscription, acknowledged that he made the same and declared the said instrument so subscribed by him to be his last Will and Testament. Whereupon we then and there, at his request, and in his presence and the presence of each other, subscribed our names as witnesses thereto.
Hugh H. Humphrey 36 Lansing Street Utica.
Norman J. Paul 40 Lansing Street Utice.