MR. JOHN P. THOMAS. ARENA, WISCONSIN.

Ionawr 12fed, 1878, yn Arena, Wisconsin, yn hynod ddisymwth, Mr. John P. Thomas, yn 66 mlwydd oed.

Blinid ef ers misoedd yn ôl gan anhwylderau yn y cylla, ond gwellhaodd i'r fath raddau fel y coleddid gobeithion gan ei blant a'i gyfeillion eu bod wedi ei lwyr adael dros amser o leiaf; ond boreu dydd Gwener ail ymosododd arno gyda'r fath nerth fel yr adfeiliodd ei babell cyn boreu dranoeth.

Ganwyd ef mewn lle o'r enw GorlegLwyd, yn Ffestiniog, Gogledd Cymru.

Symudodd i'r wlad hon tua 33 o flynyddau yn ôl. Wedi aros blwyddyn yn Pennsylviinia, symudodd i Dodgeville, Wisconsin, oddiyno i Blue Mounds, a tua 10 mlynedd yn ôl i Arena. Trwy ei holl fywyd bu yn sobr, gweithgar a diwyd iawn, a choronodd Rbaglumaeth ei ymdrechion. Casglodd yn nghyd lawer o bethau y bywyd hwn, a gwnaeth gartref cysurus iddo ei hun a'i blant ar ei ôl.

Gadawodd dri o blant yn amddifad, dau o feibion ac un ferch. Fel tad, cymydog a dinesydd, yr oedd Mr Thomas yn barchus iawn gan bawb. Yr oedd yn ddyn llygadgraff, a gwyliai yn fanwl symudiadau gwladol a chartrefol. Er na chymerai ran flaenllaw mewn gwleidyddiaeth, rhoddid lawer o ymddiried yn ei farn aeddfed mewn materion cartrefol.

Yn ei farwolaeth collodd y DRYCH hen dderbyniwr - edmygai ei egwyddorion a darllenai ef yn fanwl. Yr oedd ei angladd yn amlygiad eglur o'r parch a deimlid tuag ato. Ymgynullodd torf luosog a pharchns i dalu y gymwynas olaf i'w weddillion. Nid oes genym ond cyflwyno ei blant i ofal yr hwn sydd wedi addaw bod yn Dad i'r amddifaid.

Y Drych ~ Ionawr 24ain 1878.