MR. RICHARD E. THOMAS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mr. Ricbard E. Thomas o ardal Bethel, Remsen, Efrog Newydd. Ganwvd yn Llangian, Sir Gaernarfon, ar Mai 10fed, 1814. Enwau ei rieni oedd Evan R. a Jennett Thomas.

Bu i'w rieni saith o blant arall, chwech o fechgyn a dwy ferch i gyd. Ni chafodd ond ychydig o fanteision crfefyddol yn moreu oes, a byddai yn crwydro yn aml oherwydd hyny, ond gwnaed y diffyg hwnw i fyny i raddau helaeth gan ras ac ymroad diflino yn mlynyddoedd dyfodol ei fywyd.

Bu'n byw gyda'i chwaer Elizabeth nes y penderfynodd Richard ymfudo i America gyda eraill o'i gyfoedion yn y flwyddyn 1831, yn fachgen un ar bymtheg oed, gan adael ei chwaer ar ôl. Daeth efo'i gyfoedion i fyny i Remsen, ac yna y bu ynghyd a Steuben trwy ei oes. Yr oedd yn fachgen lled wyllt, a diofal am grefydd, fel ei gyfoedion yn gyffredin yr adeg hon; ond daeth ei chwaer drosodd, a bu ei dyfodiad hi yma yn llawer o atalfa iddo fyned yn mlaen fel y buasai oni buasai hi. Gweddiai hi lawer trosto, a chynghorai ef bob cyfle a gai i geisio yr Arglwydd, ond nid oedd dim yn manu ond ychydig arno.

Yr adeg hon, 1838, torodd allan ddiwygiad mawr Steuben fel y gelwir, ac ymwelodd yr Arglwydd a chalon Richard, fel a chalonau degau eraill o'i gyfoedion. Rhoddodd ei ariau i lawr, a derbyniwyd ef yn aelod ar y Sabboth byth-gofiadwy hwnw yng Nghapel Uchaf Steuben. Ymunodd ef a'r Annibynwyr yn Bethel, a chyda hwy y bu am 40 mlynedd, ac yn yr un eglwys, ac yn ddiacon ynddi am flynyddau yn niwedd ei oes.

Yn Ionawr 1af, 1841, ymbriododd a Miss Mary Hughes, merch William Hughes, a chwaer Hugh W. Hughes, Bethel, gynt o Abererch, Sir Gaernarfon. Bu iddynt bump o blant, dau fab a thair merch. Bu y tair merch farw wedi tyfu i fyny a bod yn wragedd. Teimlodd ein brawd yn ddwys iawn o golli ei dair merch anwyl a hoff. Nis gallai grybwyll eu henwau na byddai y dagrau yn rhedeg yn lli hyd ei ruddiau; ac aml dywedai gyda llygaid gwlybion, na byddai yntau yn hir ar eu holau.

Yr oedd ei babell briddlyd yn cael ei haraf dynu i lawr er's blynyddoedd. Nid oedd y meddygon yn deall ei glefyd, ac felly er chwilio am bob meddyg a phob meddyginiaeth nid oedd dim yn tycio, ond myned yn waeth wnaeth, fel yr ymadawodd a'r fuchedd hon Hydref 14eg, 1878, yn y 64 mlwydd o'i oedran - haner blwyddyn ar ôl ei chwaer, gan adael gwraig a dau fab i alaru ar ei ôl. Claddwyd ef yn mynwent Bethel, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur yn Saesneg gan y brawd Dr. Jones, Utica, ac yn Gymraeg gan yr ysgrifenydd. Yr oedd lluosawgrwydd ei angladd yn brawf fod un mawr yn meddwl y cymydogaethau yn cael ei gladdu. Ni welwyd y fath nifer o gerbydau erioed mewn angladd yn y cymydogaethau hyn. Yr oedd y cerbydau yn cyrhaedd yn agos i filltir, a phe buasai yr holl gerbydau a ddaethant at y capel yn yr orymdaith, buasent yn cyrhaedd o dŷ ein brawd i'r capel - dwy filltir o ffordd. Mae hyn yn llefaru yn uchel am fywyd, buchedd a chrefydd ein brawd.

Duw fendithio ei weddw alarus yn ei henaint, a'u dau fab sydd yn wylo ar ei ôl.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Gorphenaf 1879.


MR. RICHARD E. THOMAS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

I, Richard E. Thomas, of the Town of Steuben, County of Oneida and State of New York, being of sound mind and memory, do make, ordain, publish and declare this to be my last Will and Testament, that is to say :

First. After all my lawfuldebts are paid and discharged, I give, devise and bequeath to my grand children Jane and Richard M. Vaughan, the children of John J. Vaughan and Willard Jones, the child of William P. Jones, the sum of five hundred dollars each, to be paid to each as he or she becomes of the age of twenty one years.

Second. All the rest, residue and remainder of all my Estate both real and personal I give, devise and bequeath to my wife Mary Thomas, and my two sons, viz; Evan R. and William R. Thomas, to be equally divided between them and their heirs, share and share alike, the child or children of a deceased child; taking the share which his, her or their parent would have taken if living.

Likewise, I make, constitute, and appoint Evan R. Thomas of Alder Creek, Oneida County, New York, to be Executor of this my last Will and Testament, hereby revoking all former Wills by me made.

In witenss whereof, I have hereunto subscribed my name and affixed my seal, the fourth day of October, in the year of our Lord, one thousand, eight hundred and seventy eight.
The mark of Richard E. Thomas.

The above instrument consisting of one sheet, was at the date thereof subscribed by Richard E. Thomas, in the presence of us and each of us, he at the time of making such subscription, acknowledged that he made the same and declared the said instrument so subscribed by him, to be his last Will and Testmant. Whereupon we then and there at his request, and in his presence, anf the presence of each other, subscribed our names as witnesses thereto.
William E. Jones residing at Steuben New York.
Benjamin Beynon residing at Alder Creek New York.

New York, U. S., Wills and Probate Records, 1659-1999.