MR. RICHARD H. THOMAS. BATH, PLACER COUNTY, CALIFORNIA.

Mai 26ain, 1878, yn 50 mlwydd oed, Richard H. Thomas, Bath, Placer Co., California.

Yr oedd yr ymadawedig yn enedigol o Ty'n y Groes, ger Conwy, Gogledd Cymru. Ymfudasai oddiyno pan yn naw oed, a bu ar y mor am tua 15 mlynedd, pryd yr ymsefydlodd yn Bath hyd ei farwolaeth.

Yr oedd yn iach ac yn gryf o dydd Sadwrn hyd 11 o'r gloch, pan y tarawyd ef gan cramp a rhyw fath o golic yn yr ystumog, effeithiau yr hwn a barhaodd hyd 9 or gloch boreu Sul, pan yr hunodd yn yr angau.

Mab ydoedd i Hugh a Margaret Thomas, Ty'n y Groes, ac mae iddo frawd a chwaer yn byw yno yn awr, sef John Thomas a Margaret Roberts, gwraig John Roberts; ac mae brawd arall iddo yn byw yn Mostyn, sef William Thomas. Mae yma un perthynas iddo, sef yr unig un yn y wlad hon fel yr wyf yn deall, sef Richard Thomas ei nai, mab John ei frawd, yr hwn a ymfudodd ato tua thair blynedd yn ôl o Tanygrisiau, Ffestiniog. Yr oeddynt yn byw gyda'u gilydd, a hwn sydd wedi cael gofal yr eiddo sydd ar ei ôl.

Yr oedd yn aelod o'r Temlwyr Da, a throesant hwy allan y dydd Llun canlynol yn un corff mawr i dalu'r gymwynas olaf i'w weddillion. Cafodd el gladdu yn nghladdfa Forest Hill, ac yr oedd y rhan fwyaf o'r gweithfeydd wedi stopio ar yr achlysur, er rhoddi cyfleustra i bob un fyned i'r angladd; ac yn wir yr oedd y claddedigaeth yn un parchus lawn. Bellach huned yn dawel yw dymuniad yr ysgrifenydd.
WILLIAM. T. LLEWELYN.

Y Drych ~ Mehefin 20fed 1878.