MRS. ELIZABETH EVANS, COLUMBUS, WISCONSIN.

Tachwedd yr 22ain, 1846, ger Columbus, Wisconsin, o'r Cryd, yn y 68fed o'i hoedran Elizabeth Evans, gwraig Evan Evans.

Ymfudasai gyda'i phriod a'i mab-yn-nghyfraith o'r Pandŷ, Abercywarch, Llan-y-mawddwy, sîr Feirionydd, yn y flwyddyn 1845. Buont fyw beth amser gyda'i mab, Dafydd Evans' yn mhlwyf Marcy, C. N., o'r hwn le y mudasant eilwaith Ebrill yr 20fed, 1846, gyda'u plant a'u cyfeillion i'r lle uchod.

Hebryngwyd ei rhan farwol i fynwent y Trefnyddion Calfinaidd, yn y gymydogaeth hono, ar y 24ain, a thraddodwyd pregeth ar yr achlysnr gan y Parch. John Roberts, (T. C.,) oddiar Salm xc. 3.

Yr oedd y drengedig yn aelod selog o Eglwys Loegr er yn ieuangc; ac nid ydym heb seiliau gobeithiol i gredu ei bod wedi diangc, trwy rinwedd aberth yr hwn y tystiai ei bod yn ymddiried ei bywyd iddo, sef yr Arglwydd Iesu Grist.

'Angau a ddaw a braw yn ei bryd, - O gwylia
Ei golyn dychrynllyd;
Tro dy fyw, trwy dy fywyd,
Fore a hwyr i farw o hyd.'

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mai 1847.