MRS MARGARET EVANS, ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Margaret Evans ydoedd ferch henaf Evan ac Ann Evans, y rhai a ymfudasant i'r wlad hon o blwyf Llandwrog, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1832.

Ganwyd hithau yn y plwyf uchod ar yr 16eg o Ionawr, 1820; bu farw yr 28ain o lonawr, 1846; ac felly hyd ei thaith ddaearol ydoedd 26 mìynedd a deuddeng niwrnod. Gelìir dywedyd am y chwaer hon fel y dywedodd y prophwyd am Jerusalem, 'Ei haul a fachludodd tra yr oedd hi yn ddydd.' Pan fyddo yr haul yn dechreu ar ei yrfa, bydd ei ymddangosiad cyntaf yn wanaidd. Felly hefyd y mae dyn. Ymddengys yn wanaidd a diymgeledd yn moreuddydd ei fywyd. Ac fel y byddo yr huan ysplenydd yn ymdynu tua'r terfyngylch, bydd yn cynyddu ac yn mwyhau yn ei oleu a'i wrês. Felly hefyd y mae dyn yn cynyddu ac yn ymwroli fel yn nesâu at ganolddydd bywyd. Aml iawn y bydd gwyneb dysglaer yr haul yn cael ei guddio gan gymylau tewion. Felly hefyd y mae dyn yn cael ei orchuddio a'i gymeryd ymaith gan aml a blin gystuddiau, llawer o ba rai a gyfarfu â'r chwaer hon.

Cyn myned yn mlaen i son am gystudd dirboenus, a marwolaeth orfoleddus y drangcedig, hwyrach mai gwell fyddai dweyd gair am ei chymeriad.

Yr oedd o dymher lled siriol a llawen, eto yr oedd sobrwydd a dwysfrydedd yn amlwg i'w weled yn fynych yn ei gwêdd. Yr oedd yn un a hoffid yn fawr gan hen ac ieuangc. Byddai pawb yn hoff o'i chyfeillach. Carai yr hen bobl gael cyfarfod â hi i ymddyddan am amrywioí bethau, ond yn enwedig am drefn fawr a gogoneddus gras i gadw yr enaid. Ac y mae llawer o'i chyfeiilion yn galaru eu colled yn fawr yn hyn ar ôl yr ymadawedig. Nid yw ei rhieni yn cofio iddynt erioed glywed neb yn dweyd fod Margaret yn anufydd, neu yn ymddwyn yn anaddas. Nid ydym yn meddwl wrth hyn ei bod yn ddifai.

Treuliodd y rhan fwyaf o'i hymdaith ddaearol yn Utica, C. N.; ac felly y mae y rhan fwyaf o'i chydnabyddiaeth yn y dref hono. Gadawodd Utica tua phedair blynedd yn ôl a daeth i Rome i aros, ac wedi bod yno ysbaid blwyddyn, ymunodd yn ôl ordinhad Duw mewn glan briodas â Mr. William Evans, genedigol o sir Fôn.

Ni fwynhaodd Mrs. Evans nemawr iechyd ar ol priodi. Blinid hi yn fynych gan wendid corfforol ac iselder meddwl. Ganwyd iddynt ddau o blant. Bu farw y cyntaf o honynt yn ei fabandod, ac y mae'r llall yn fyw.

Yn ystod y ddwy flynedd a hanner diweddaf o'i bywyd dyoddefodd lawer o ofidiau corfforol, ac er hyny nid oedd yn grwgnach yn erbyn rhagluniaeth ddoeth y Nefoedd. Peth mawr yw cael y fraint o dewi fel Aaron, ac ymostwng fel Eli, yn ngwyneb troion chwerwon Rhagluniaeth.

Cawsai Mrs. Evans ei dwyn i fyny yn Nhŷ Dduw o'i mebyd gan ei rhîeni, ac nid yn unig yr oedd ei rhieni wedi ei chyflwyno i'r Arglwydd yn moreu ei bywyd, eithr gwirfoddol gyflwynodd hithau ei hun i'r Arglwydd, ac i'w bobl, yn ôl ei ewyllys ef. Cafodd y fraint o fod yn aelod rëolaidd a ffyddlon, o foreuddydd ei bywyd hyd ei ddiwedd gyda 'r Methodistiaid Calfinaidd. Yr oedd crefydd yn talu ei ffordd yn dda i'n chwaer ymadawedig, pan mewn bywyd ac iechyd; ond yn ngwyneb angau a'r Iorddonen dywell, rhoddodd iddi fodd i ganu a gorfoleddu megys ar yddfau ei holl elynion. Bu y gelyn yn chwerw iawn wrthi am beth amser cyn ei marwolaeth, eto ni allodd ei llwyr orchfygu; ond trwy ffydd ddiffuant ymddiriedodd ei henaid anfarwol i ofal yr 'Hwn a ddichon yn gwbl iachâu, y rhai trwyddo ef sydd yn dy- fod at Dduw.'

Cafodd yr ysgrifenydd y fraint o fyned i'w gweled ac ymddyddan â hi y Sabboth diweddaf o'i thaith yma. Y pryd hwnw yr ydoedd i raddau ar lawr gan y gelynion. Yr oedd gelyn pob rhinwedd yn ceisio ganddi feddwl fod ei hanwiredd yn fwy nag y gellid ei faddeu, neu, ei bod wedi pechu y pechod anfaddeuol. Ar ôl myned o honof i'r tŷ gyntaf, ni ddywedais ond ychydig eiriau wrthi, ond gwr- andewais arni yn ymddyddan â'i mam. Dy- wedodd amryw droion ei bod yn ofni nad oedd modd iddi hi gael maddeuant. Yna darllenodd yr ysgrifenydd y LIIIain o Esay iddi, a cheisiodd gyfarch Gorsedd gras ar ran y glaf, a.y. Wedi hyn, ymddyddanwyd â hi am ei chyflwr, ei hofnau, a.y. Yr ydoedd yn hynod o wanaidd, ac nid ellai ddweyd nemawr o'i meddwl, eto dywedai ei bod yn ofni nad oedd modd ei chadw. Ymdrechwyd dweyd wrthi am rinweddau gwaed y Groes - y miloedd a mwy o bechaduriaid mawrion, Manasse, Mair Magdalen, a.y., y rhai a olchwyd ac a ganwyd yn ngwaed yr Oen - fod 'gwaed lesu Grist yn glanhau oddiwrth bob pechod,' ac mai hon yw y wledd frasaf sydd gan Dduw i'w rhoddi i enaid credadyn, a.y., ac ymddengys na bu y dweyd yn ofer. Y nos Sadwrn olaf o'i bywyd dywedai wrth ei thad ei bod yn ofni nad oedd gobaith y gallai hi fod yn gadwedig. Yna syrthiodd i lewyg (fit,) a phan oedd yn dyfod ati ei hun dywedodd, 'Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich mysg, ond Iosu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio.' Yna tórodd aìlan mewn mawl a gorfoledd, a dywedodd pe buasai ganddi fil o eneidiau na buasai yn ofni eu hymddiried i ofal Iesu Grist i'w cadw. Yna archodd ar ei thad ddweyd y cynghor cynhwysfawr canlynol wrth ei chwaer Jane, yr hon oedd 300 milìtir oddiwrthi, yn New-York; sef, cymeryd gofal mawr o honi ei hun, darllen ei Bibl, a gwneyd fel y mae yn dweyd.

Er iddi fel hyn gael buddygoliaeth am dro ar y gelyn, eto daeth yr ofnau yn mlaen, ac am y lle uchaf yn ei meddwl. Ar ôl ei Sabboth diweddaf, ni cha'dd y gelyn hi i lawr i dir anhyfryd amheuon ac anobaith fel o'r blaen.

Boreu ddydd Llun, Ionawr y 26ain, gofynodd ei mam iddi pa fodd yr oedd yn teimlo? Atebodd nad oedd yn ofni marw mwy na'r baban bach oedd yn ei mynwes - mwy na thynu fy llaw hyd fy wyneb; ie, pe buasai, genyf fil o eneidiau, ymddiriedaswn hwynt i' Iesu,' Canys efe yw yr Iawn,' a.y. Dywedodd ei mam wrthi eilwaith ei bod hi yn teimlo yn lled wael. Dywedodd yr ymadawedig ei bod yn gobeithio mai hi fyddai y gyntaf a ddeuai ar ei hol i fod gyda'r íesu, canys llawer iawn gwell ydyw. Yna canodd y pennillion canlynol:-

'Agorwyd pyrth y nefoedd wen,
Mi welaf fôr o waed,' a.y.

'Dechreu canu, dechreu canmol,
Yn mhen mil o oesoedd maith,' a.y.

A dyma ydoedd rhai o'i dywediadau olaf.

Parhaodd ei hymddiried yn ddiysgog yn y Cyfryngwr hyd y foment olaf o'i bywyd, yna hunodd yn yr Iesu am chwech y prydnawn, Ion. yr 28, 1846.

Foreu dydd Sadwrn, Ionawr yr 31ain ymgynnullodd tyrfa fawr i dalu y parch olaf i'w gweddillion daearol. Ar y achlysur gweinyddodd y brodyr canlynol:- Mr. Stanley, (Sais,) a ddarllenodd, a.y., cyn cychwyn o'r tŷ. Wedi cyrhaedd o honom Rome, aethom i Session Room yr Eglwys Gyntaf, lle y pregethodd yr ysgrifenydd yn Gymraeg oddiwrth Num. xxiii. 10, a Mr. D. O. Jones, yn Saesonaeg, oddiwrth Mat. xxiv. 44.

Wedi hyn rhoddwyd ei gweddillion i lawr yn ybedd oer hyd foreu caniad yr udgorn diweddaf. 'Gwyn eu byd y meirw, y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd.'

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ebrill 1846.


MRS MARGARET EVANS, ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

AMGYLCHIAD GALARUS.

Diwreiddiad teulu cyfan gan Angau. Awst y 6fed, yn agos i Rome, swydd Oneida, Caerefrog Newydd, o'r Typhus Fever fel y bernir, yn 27 mlwydd oed, bu farw Margaret Evans, gwraig un Thomas Evans, diweddar o swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru. Cymerwyd hi yn glaf ar ei thaith cyn gadael dinas Caerefrog-Newydd, ac yn mhen tua thair wythnos i'r amser y tiriodd yno bu farw, gan adael ei phriod a dau o blant bychain i alaru eu colled dros dyrnhor. Yr oedd y drangcedig yn aelod grefyddol hardd a dichlynaidd, (yn ôl y dystiolaeth amdani,) gyda'r Trefnyddion Calfinaidd er yn ieuangc'.

Eto, ar y 13eg o'r un mis, ac yn yr un tŷ, yn flwyddyn ac 11 mis oed, Mary, plentyn hynaf i Thomas a Margaret Evans uchod.

Eto, ar y 24ain o'r un mis, yn yr un tŷ, ac o'r un clefyd, yn 25 mlwydd oed, Thomas Evans, gŵr y wraig drangcedig uchod, a thad y plentyn. Yr oedd yntau hefyd wedi cael y fraint o'i ddwyn at grefydd pan yn lled ieuangc. Yr oedd yn aelod proffesedig gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, oddiwrth ba rai y dygodd ef a'i wraig dystiolaeth dda o'u cymeradwyaeth yn eu plith yn Nghymru. Ni chawsant fyw yn y wlad hon i gael y fraint o roi eu llythyr cymeradwyaeth i mewn yn unrhyw eglwys, ond dangoswyd ef i rai o'r brodyr crefyddol yma, a llawenydd nid bychan oedd genym ei weled. Teimlem yn ddiolchgar i Dduw pob gras am gael lle i obeithio yn eu hachos, yn ngwyneb yr amgylchiad sobr. Oh! môr werthfawr bod yn barod!

Eto, ar y 27ain o'r un mis, yn yr un tŷ, ac o'r un clefyd, yn 32 mlwydd oed, William. Evans, brawd i'r Thomas Evans uchod. Yr oedd ef yn y wlad hon er's blynyddau lawer. Ni bu erioed yn briod, ond yr oedd y pryd hwn yn ben teulu, o blegyd yr oedd ganddo ffarm fawr dan ei ofal ac i'w gwrteithio, lle y cadwai weision a morwynion. Yr oedd yn ddyn ieuangc cyfrifol a pharchus iawn, ac o ymddiried mawr. Yr oedd hefyd yn aelod crefyddol yn yr ail Eglwys Bresbyteraidd yn Rome. Dyrys yn aml i'n golwg ni yw Rhagluniaeth ddoeth y nef. Derbyniodd ei frawd a'i deulu ar eu dyfodiad o'r hen Wlad, a daeth y clefyd gyda hwy, mae yn debyg, yr hwn a aeth ag yntau ymaith i'r byd tragywyddol; er hyny, yr ydys yn gobeithio i'r symudiad fod yn elw iddo yntau hefyd.

Eto, Medi y 7fed, o'r un teulu, yn saith mis oed, William, plentyn lleiaf Thomas a Margaret Evans. Dyma yr olaf o'r teulu wedi ei gymeryd ymaith gan angau!

Wele deulu cyfan o bedwar mewn nifer, yn nghydag un arall ag oedd i'w ystyried yn ben teulu, wedi eu symud gan angau i dragywyddoldeb, a hyny o fewn tua mis o ddyddiau! Gan hyny, am mai yn y modd yma y gwneir â ni, O! byddwn barod i gyfarfod a'n Duw!

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Tachwedd 1846.