MR. ELLIS E. WILLIAMS. ROCKBRIDGE, ALUM SPRINGS, VIRGINIA.
Awst 5ed, 1878, yn Rockbridge, Alum Springs, Virginia, Ellis E. Williams, West Bangor, Pennsylvania.Cyfarwyddwyd ef gan ei feddyg i fyned i'r ffynonau crybwylledig er ceisio gwellhad; ond gwaethygu a fu y canlyniad yn lle gwella. Deallodd ei briod mai colli y dydd a fyddai iddo, a hyny yn fuan, felly anfonodd at ei frawd William E. Williams. Dywedai Mrs. Williams mai dyma yr adeg dywyllaf a welodd yn ei hoes, sef gweled ei hanwyl briod yn mynd i farw yn nghanol ddyeithriaid; ond yn y cyfwng yna cyrhaeddodd ei frawd yno tua thair awr cyn iddo huno. Bu farw yn dawel, ac yr oedd yn ymwybodol o'r oll hyd y munud olaf. Ei afiechyd oedd y chronic diarrhea. Dyoddefodd cystudd poenus am fisoedd.
Daethant a'r corff adref ar yr 8fed, yn mhen pythefnos i'r diwrnod yr aethant i ffwrdd. Claddwyd ef yn barchus yn mynwent Stateville y dydd canlynol gan dorf o Gymry yn nghyd ag Americaniaid, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. E. J. Hughes; ond nid gyda chymaint o seremoni a'r arferiad cyffredin yma, trwy nad oedd y corff mewn agwedd briodol i fyned i'r capel. Traddodir y bregeth angladdol nos Sabboth nesaf gan y Parch. E. J. Hughes.
Ganwyd Mr. Williams - Ebrill 1af, 1821, yn Nghorris, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, ac ymfudodd i'r wlad hon yn 1849, gan ymsefydlu yn West Bangor. Yr oedd yn briod yr adeg hono gydag Ann, merch Morgan Morris, Gelligan, o'r un sir ag yntau, a buont byw gyda'u gilydd tua pum mlyneud a haner. Ganwyd iddynt dair o ferched, a chymerwyd eu mam ymaith gan angau pan oeddynt yn ieuanc iawn. Fe fu yn weddw tua 14 mlynedd.
Priododd drachefn tua 10 mlynedd yn ôl gydag Elizabeth, merch Griffith Ellis, yr hon awr sydd yn weddw a phedwar o blant man i alaru eu mawr golled ar ôl tad tyner a gŵr ofalus. Yr oedd wedi ei ddwyn i fyny yn grefyddol o'i febyd, ac wedi rhodio yn ddichlynaidd hyd ei fedd, ac yn dwyn mawr sel dros yr enwad y perthynai iddo; ac hefyd fe deimla yr eglwys Fethodistaidd yn West Bangor golled ar ei ôl, yn enwedig yn yr ystyr arianol. Yr oedd wedi cyraedd sefyllfa gysurus yn y byd hwn, trwy ddiwydrwydd a chynildeb. Cafodd lawer iawn o drallodion i'w feddwl yn y wlad hon, yn enwedig colli ei anwyl Ann a'i hawddgar ferched, ac yn ddiweddaf oll o'r teulu hwnw cymerwyd yntau at ei wobr. Yr oedd yn ddyn o ymddiried yn mhob ystyr, ac yn gyfaill cywir.
Yr wyf yn dweyd hyn oddiar adnabyddiaeth er yn blant, a'r cysylltiadau a fu rhyngom, ac nis gallaf lai na theimlo ar ei ôl; ond pa faint mwy ei briod a'i blant, iddynt hwy y mae y golled fwyaf o bawb. Cymered yr Arglwydd ofal o'i weddw a'i blant bach, y rhai oedd yn agos iawn at ei galon y mynydau olaf. Felly Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon a ofalo am danynt, a heddwch i'w lwch, yntau i aros ganiad yr udgorn y dydd diweddaf.