MR. ROBERT WILLIAMS. PIKE GROVE, WISCONSIN.
Mehefin 24ain, 1878, yn Pike Grove, Wisconsin, Robert Williams, tad Mrs. Evan Griffiths, yn yr oedran teg o 90 o flynyddoedd a 9 mis.Ganwyd ef yn Llanfair, Llwyn Cadair Owen, Sir Feirionydd. Ymunodd a'r Bedyddwyr pan yn 18 oed yn Harlech.
Claddodd ei wraig yn ye nydref y flwyddyn 1844, ac yn y gwanwyn canlynol ymfudodd i America gyda dwy ferch a mab-yn nghyfraith, ac ymsefydlodd yn Cassville, New York. Oblegid anghyfleusdra ni ymunodd a chrefydd hyd y flywyddyn 1858. Symudodd at el ferch i Pike Grove er ys pum mlynedd yn ôl, ac ymunodd a'r Annibynwyr yma. Yr oedd efe yn ddarllenwr mawr; ac er fod ei glyw wedi ei amharu yn fawr, eto mynychai foddion gras hyd y gallodd. Yr oedd yn gwanhau er ys dros fis cyn ei farwolaeth. Dywedai ei fod yn credu fod awr ei ymddatodiad wedi nesau, ac ychwanegai - "Mi a wn fod fy Mhrynwr yn fyw." Gwelodd gyflawniad yr addewid hono, "Digonaf ef a hir ddyddiau, a dangosaf iddo fy iachawdwriaeth."
Mehefin 26ain, ymgynullodd y cyfeillion i'w anfon tua thŷ ei hir gartref, a chafodd gladdedigaeth lluosog ac anrhydeddus. Heddwch i'w lwch. Gweinyddwyd yn y tŷ ac wrth y bedd gan yr ysgrifenydd.
J. H. GRIFFITHS.