MARGARET HUGHES. COLUMBUS, WISCONSIN.
Chwefror 17eg, 1879, yn Columbia, Wisconsin, bu farw Mrs. Margaret Hughes, priod Mr. Benjamin Hughes, diacon yn Eglwys Columbus, a mam y Parch. Thomas E. Hughes, Welsh Prairie, Wisconsin. Merch ydoedd i Evan a Margaret Roberts Tyddyn Crwner, Clynnog, Arfon, Gogledd Cymru. Ganwyd hi Mawrth 3ydd, 1825; yn oedd felly yn agos i 54 mlwydd oed.Priododd Awst 16eg, 1843. Cychwynasanat o Liverpool i America, Ebrill 12fed, 1845, a daethant trwy Racine, gyda dau neu dri o deuluoedd eraill, i gartrefu rhwng Columbus a Beaver Dam, a dyna ddechreuad y sefydliad Cymreig yn y lle. Mrs. Hughes oedd y Gymraes gyntaf a ddaeth i gylchoedd Columbus, a chafodd brawf byw, mewn trafferthion a phleserau, beth yw dechrau sefydlu yn anialwch America.
Daeth yn gawod fawr o wlaw taranau un noswaith, tra nad oedd ond brigau ar ben yn ty log, lle yr ymdyrai yn ychydig deuluoedd Cymreig oedd yn byw yn yr ardal, a Mr. Hughes yn dal umbrella i gadw Mrs. Hughes, a Thomas yn faban yn ei breichiau, tra nad oedd y lleill well nag allan.
Bu iddynt wyth o blant, o'r rhai mae tri wedi ei rhagflaenu i'r bedd. Yng nghylchoedd Columbus y bu hyd derfyn ei hoes - yn ardal Bethel am ychydig, yna yn Salem, ac am y saith neu wyth mlynedd diweddaf yn nhref Columbus.
Cafodd ei magu gyda chrefydd (T.C.), ac ni fu allan o'r eglwys, na than un math o gerydd hyd y diwedd. Derbyniwyd hi i'r cymundeb pan oedd tua 14eg oed, yn Pwllheli, er yr aeth yno ychydig cyn hyny heb un papur eglwysig, gan nad oedd ond plentyn. Cymerodd hen chwaer yno ofal am dani fel pe buasai yn ferch iddi. Bu mewn trallod mawr am ei chyflwr pan oedd tua 13eg oed, yn ofni am amser nad oedd modd peidio ei cholli; ond "Mi a gyfarfyddaf a thi yno," oedd air a roddodd lan iddi. Nid oes ond un syniad am dani mewn cysylltiad a chrefydd, sef y truliodd oes wir grefyddol.
Tystai ei phriod, yr hwn oedd yn y fantais oreu i bawb i wybod am dani, y treuliodd oes, a chymeryd yr oll gyda'u gilydd, grefyddol iawn. Darllenai lawer ar lyfrau da - Y CYFAILL yn wastad, a Thrysorfa y Plant; hefyd, Hanes Moody, Y Pwlpud Cymreig, Lampau y Deml, a Phregethau Henry Rees, yn ddwy gyfrol bob un. Ni foddlonai, wedi dechreu un o honynt, heb ei ddarllen trwyddo. Darllenai lawer hefyd ar James Hughes, Barnes a Geiriadur Charles, ac yn enwedig y Beibl. Hefyd, yr oedd yn ofalus iawn am y plant, i'w dysgu i ddarllen, ac i iawn ymddwyn. Ofnai lawer rhag iddynt ddwyn gwarth ar grefydd, a diau y gweddiodd lawer drostynt; a gadawodd yr oll sydd ar dir y byw ar ei hol yn yr eglwys.
Yr oedd yn bob mantais i grefydd yn mhob cylch y cai gyfle, megys i hyrwyddo y ffordd i'w phriod i fyned i'r Cyfarfodydd Dosbarth a.y., lletya pregethwyr, y rhai a ystyrient ei thy fel eu cartref a.y. Yno, yn nghyd a dau neu dri eraill o dai, y cynaliwyd addoliad crefyddol gyntaf am dymor yn y sefydliad, ac yno y ffurfiwyd yr eglwys gyntaf, sef mewn ty log, am y ffordd a lle mae capel Bethel yn awr. Ofnai gryn lawer trwy ei hoes am ei chrefydd, er y profai ar adegau sicrwydd cryf. Yr oedd yn glir iawn yn ei phrofiad yn lled gyffredin trwy ei chystydd. Dywedai yn fynych ei bod yn sicr na chollid mo honi byth, a choffai aml adnod a phenill. Bu yn lled wanaidd, dan fath o nychdod, pan yn ieuainc; wedi cefnu hyny, byddai gwalldreuliad yn ei phoeni, hyd tua phum' mlynedd yn ol, pan fu glaf, yn agos i angau - cafodd well llonydd ganddo ar ol hyny. Yr hyn oedd fwyaf tueddol iddi wedyn oedd gwendid yn y lungs pan gai anwyd, a hyny, mae yn debyg, a drodd yn gonsumption, ac a fu yn angeu iddi. Bu yn nychu, nemawr gwell na gorwedd, am tua phum mis.
Cafodd gynhebrwng mawr iawn - 64 o gerbydau, er fod yr hin yn anffafriol. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y brawd John R. Jones, Hendref a John J. Roberts.