MR. OWEN EVANS, PITTSON FERRY, LUZERENE, PENNSYLVANIA.

Ar ol pymthefnos o gystudd gan glefyd y gwaed, ar yr 20fed o Orphenaf, 1846, yn Pittston Ferry, swyd Luzerne, Pennsylvania., Mr. Owen Evans, yn 28ain oed, gan adael gwraig a baban bychan i alaru ar ei ôl. Daeth i'r wlad hon tua blwyddyn a chwe' mis yn ôl o'r Fachell Fach, plwyf Llanddeiniolen, swydd Gaernarfon.

Ar yr 22ain ymgynnullodd torf luosog o Gymry a Saeson er cario ei gorff i'r bedd, pa rai a anerchwyd ar yr achlysur gan yr ysgrifenydd yn Saesoneg, a chan Mr. Daniel Daniels o Beaver Meadow yn Gymraeg.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ionawr 1847.