MR. WILLIAM A. THOMAS. WILLIAMSBURG, IOWA COUNTY, IOWA.
Ymddengys fod bywyd a marwolaeth yn ddau gyflwr anmhosibl eu dysgrifio. Ni a wyddom ein bod yn fyw, ond nis gwyddom beth yw bywyd. Ni a wyddom y rhaid i ni feirw; ond beth ydyw hyny nis gwyddom. Mae trosglwyddiad un o'r hîl ddynol o fywyd i angau, yn ail mewn pwysigrwydd i symudiad yr enaid o farwolaeth ysbrydol i fywyd grasol.Y mae ein hen gyfaill ymadawedig wedi profi y farwolaeth gyntaf, a hyderwn ei fod hefyd wedi profi y bywyd olaf. Ei ardal enedigol ydoedd Llanengan, Lleyn, Gogledd Cymry. Glaniodd yn New York ddechreu Mehefin, 1819. Priodwyd ef gyda Gwen Abrams ar y 12fed o'r un mis, gan yr hybarch John Williams, New York.
Yr oedd Gwen Abrams, yn nghyd a'i rhieni, yn croesi y mor yn yr un llong ag ef. Y fath ydoedd anghyfleusderau teithio y pryd hyny, fel y buont ddwy wythnos yn dyfod i fyny o Albany i Utica. Daeth i fyny i Steuben ar ei draed, i ymofyn cerbydau i gludo y gweddill o'r teulu. Sefydlasant ar ddarn o dir coediog, yn mhlwyf Steuben, yn agos i Ben y Graig, a bu raid iddynt dori y coed er cael lle i gyfodi tŷ log; oblegid dyna ddull y sefydlwyr cyntaf o ddechreu eu byd yn y parthau hyn.
Bu ef a'i briod yn preswylio ar y tyddyn tir hwnw am 49 o flynyddau, Bu iddynt wyth o blant - pump o feibion a thair o ferched - saith o ba rai sydd yn awr yn fyw.
Gwnaeth broffes o grefydd yn adeg yr adfywiad fawr a fu yn Steuben, ac ar yr 22ain o Ebrill, 1838, derbyniwyd ef, a 96 eraill, yn aelodau i Eglwys yr Annibynwyr yn Steuben, gan y Parch, William D. Williams, sef gweinidog yr eglwys y pryd hyny. Bu am 33 o flynyddau o dan weinidogaeth y diweddar Barch. R. Everett, D. D., a'r Parch. Sem Phillips.
Fel crefyddwr, yr oedd yn lled gyson a ffyddlon, nid arferai siarad llawer mewn cyfarfodydd, ond byddai yn wastad yn barod i adrodd ei brofiad yn y cyfeillachau, a chymerai ran yn rhwydd a dirodres yn y gwasanaeth pan geisid ganddo. Yr oedd yn wylaidd, gostyngedig, a thangnefeddus yn yr eglwys, ac yn barchus iawn o'i weinidog yn wastad. Byddai yn hoffo ddarllen llyfrau crefyddol - derbyniodd, darllenodd, a gwerthfawrogodd y Cenhadwr er pan ddeehreuwyd ei gyhoeddi hyd y diwedd.
Bu farw ei wraig yu mis Mawrth, 1868, yr hyn fu yu golled fawr iddo; teimlai ei hun fel pererin unig wedi colli cydmares ei fywyd.
Yn ngwanwyn y flwyddyn 1871, talodd ymwelíad â'i fab Richard, yr hwn sydd yn byw yn agos i Williamsburg, Iowa, ac yno y bu hyd ddydd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Ionawr 31ain, 1879, yn 84 mlwydd a dau fis oed. Cafodd gladdedigaeth barchus. Gweinyddwyd wrth y tŷ ac ar lan y bedd gan y Parch. John R. Williams, (hen gymydog iddo yn Steuben.) ac yn y capel gan y Parch. Evan J. Evans.
Bellach, wedi iddo fyned trwy randir ei bererindod, caiff orphwys yn dawel yn llwch Iowa, hyd nes -
"Y daw cais a lläis i'r llwch,
Cadarn, yn gwaeddi, Codwch!"
AMICUS.