MR. WILLIAM R. EVANS, STEUBEN, NEW YORK.

Mr. William R. Evans ydoedd fab i Evan a Chatherine Roberts o Dŷ yr Ynn, plwyf Pen Rhos, Lleyn, ger Pwllheli.

Bu y brawd hwn ddwy waith yn briod. Ymbriododd y tro cyntaf ag Elinor Richards, merch Richard Roberts, o'r Castell, plwyf Llanengan. Ei ail briod ydoedd Elinor Parry, merch William Parry o'r Rhiw. Yn mhen blwyddyn neu ddwy ar ol yr ymgysylltiad hwn ymfudodd y teulu i America, sef tua'r flwyddyn 1800 neu 1801. Tiriasant yn mhorthladd Ballimore. Yr oeddynt eu dau yn aelodau eglwysig yn Nghymru gvda y Trefnyddion Calfinaidd, yn Nghapel y Bwlch, Lleyn.

Bu un ferch i Wm. R. Evans (o'r wraig gyntaf) farw yn Philadelphia. Bu y teulu yn byw yn Philadelphia tua 4 blynedd.

Efe ac un Andrew Williams oeddynt yn gofalu am y Float Bridge ar yr afon Schuylkill, dros ryw amser ac y buont yn aros yn y ddinas hono.

Yr oedd eglwys Gymreig yn Philadelphia y pryd hyn, o'r hon yr oedd Mr. Evans a'i briod yn aelodau. Ei gweinidog oedd Mr. Daniel Morris, yr hwn a ymfudodd iddi yno i Utica. Yr oedd hefyd eglwys Gymreig wedi ei ffurfio yn y dyddiau hyny ar y Dyffryn Mawr, ger PhiÌadelphia, lle yr oedd amryw o'n cenedl yn preswvlio. Ar ol ymfudiad Mr. Daniel Morris i Utica, galwyd un Jenkyn Samuel i bregethu y Gair ymhlith y Cymry, a neillduwyd ef yn weinidog, a bu dros ryw amser yn gweinyddu yr ordiniadau yn eu plith.

Symudodd Mr. Evans a'i deulu o Philadelphia i Steuben, swydd Oneida, C. N., tua'r flwyddyn 1805; ac ymunodd ef a'i wraig â'r eglwys Gymreig gynulledig yn y Capel Uchaf, o'r hon y buont yn aelodnu teilwng hyd eu marwolneth, eu dau. Ei wraig a fu gystuddiol dros hir amser, ac a fu farw amryw flynyddau o'i flaen ef. Ar ei ddyfodiad i Steuben prynodd gan Mr. George Weeks y tyddyn ar yr hwn y bu fyw hyd derfyn ei ddyddiau; ac arno y mae mab iddo, o'r un enw, yn byw yn awr.

Yr oedd ei iechyd cyffredin yn lled dda, ond fel yr oedd yn heneidio gwaeledd a llesgedd a ymaflai yn y tŷ o bridd. Bu yn glaf, fel na allai adael y tŷ yn agos i ddwy flynedd, a thros hir amser yn cadw y gwely; cc ar y 5ed o fis Mai, 1846, hunodd yn dawel yn angeu, a dodwyd ei ran farwol mewn bedd yn mynwent y Capel Uchaf, hyd y dydd y daw Iesu,ei Geidwad, i "wneud i fynu ei Briodoledd."

Gellir dyweyd am y brawd hwn ei fod yn wr cyfiawn, o ysbryd hynaws a siriol, yn ofalus a chryno gyda ei achosion cyffredin, ac yn ddiwyd a ffyddlon fel aelod eglwysig. Yr oedd yn dra hoff o gymdeithas ei blant, o ba rai a mae yn aros ar ei ol ddau fab a thair o ferched, oll yn meddu ar deuluoedd eu hunain, a'u cofiadwriaeth a fydd barchus yn ddiau, tra byddont, am eu tad tyner. Yr oedd ei ofal yn fawr am yr eglwys o'r hon yr oedd yn aelod, a chofiodd am dani yn nhrefniad achosion ei dŷ, fel y bydd cyfran yn deilliaw oddiwrth ei feddianau tymorol tuag at gynal achos yr efengyl yn y lle yn barhaus.

Wrth anfon un ac arall fel hyn i'r beddrod ystyriwn mor frau yw edefyn bywyd ac ymofynwn am barodrwydd i'r "breswylfa lonydd," y ty nes tynir i lawr ac na syflir un o'i hoelion byth."

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Rhagfyr 1846