MRS. CATHERINE GRIFFITHS. BERLIN, WISCONSIN.
Tachwedd 18fed, 1880, yn Berlin, Wisconsin, yn 66 mlwydd oed, o'r hemorrhage of the bowels, Mrs. Catherine Griffiths, priod Mr. John G. H. Griffiths.Er iddi fod yn wael dros saith mlynedd, a dyoddef cystudd mawr, yr oedd o ysbryd ymostyngol, a derbyniai nerth yn ôl y dydd.
Ganwyd Catherine Jones Rhagfyr laf, 1814, yn Sir Feirionydd. Pan yn ieuanc symudodd gyda'i rhieni i'r wlad hon a sefydlasant yn ninas New York.
Yn 1846 priododd â Mr. Griffiths. Yn 1856 symudasant i Berlin. Wisconsin, lle treuliodd y gweddill o'i hoes. Yr oedd Mrs Griffiths yn adnabyddus i luaws o Gymry, canys yr oedd ei thŷ yn agored yn wastad i groesawu y dyeithr a'r digartref. Flynyddau yn ôl yr oedd y Cymry yn fwy lluosog yn Berlin nag ydynt yn bresenol, ac yr oedd yr ymadawedig yn ofalus i wneyd ei rhan at gynal yr achos, ac mae ugeiniau o bregethwyr Cymreig yn byw yn bresenol yn cofio yn dda am ei chartref trefnus a chysurus, a'i gwyneb siriol.
Yr oedd hefyd yn briod anwyl ac yn fam dyner; nid yn aml y canfyddir teulu a chymaint o serch yn bodoli rhwng yr aelodau.
Cymerodd yr angladd le y dydd Sadwrn canlynol, pryd y daeth tyrfa fawr o Gymry a Saeson yn nghyd, ac y gweinyddwyd gan y Parch. David Davies, M, A., Oshkosh, yn Gymraeg, a'r Parch. Mr. Webster yn Saesneg.