WILLIAM JONES, LONG CREEK, IOWA.

Mai 23, 1880, yn 82 mlwydd oed, bu farw yr hen frawd William Jones, Long Creek, Iowa. Claddwyd ef y dydd canlynol.

Gweinyddwyd yn y tŷ gan yr ysgrifenydd, ac wrth y bedd gan y Parch. R. Hughes (T. C.) a T. W. Evans; a thraddododd M. E. Lewis bregeth angladdol iddo yn mhen ychydig Sabbothau.

Ganwyd ef yn Hafod-y-Wern, Swydd Gaernarfon, G. C. Bu yn amaethu yn Tan-y-bwlch, yn agos i Gaernarfon, am ryw nifer o flynyddau.

Ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1844. Yr oedd yn meddu ar gorff cadarn a hardd. "Ac os o gryfder y cyrhaeddir pedwar ugain mlynedd," - yr hyn a wiriwyd gydag yntau; ond er cryfed ydoedd, yr oedd yn agored i gystudd. Cyfarfyddodd â chystudd maith yn fuan ar ôl ei ddyfodiad i'r lle; a chyn hir wedi iddo ef wella, claddodd ei briod. Mor aml y mae ein gobeithion yn cael eu siomi!

"Dysgwyl pethau gwych i ddyfod,
Croes i hyny maent yn dod."

Ond er fod dyn wedi ei eni i flinder, y mae yn mwynhau llawer o gysuron, llawenydd, a llwyddiant, ac y mae'r Cristion yn cael ei ran o'r naìll a'r llall. Y mae'r chwerw a'r melus yn angenrheidiol, ac yn dangos gofal tadol Duw am ei blant. "Fel y byddem gyfranogion o'i sancteiddrwydd ef."

Ymbriododd, yn mhen amser, gyda Mrs. Thomas, yr hon a fu yn ymgeledd gymhwys iddo hyd derfyn ei oes. Yr oedd yn amaethwr cyfrifol, ac mewn sefyllfa gysurus o ran pethau y byd. Nid oedd yn honi bod yn un o'r cyfoethogion. Yr oedd yn gymydog parchus, boneddigaidd, a pharod i gynorthwyo pan fyddai augeu.

"Cylch aur o gydymdeimlad
Oedd am ei gaion gron."

Yr oedd y dorf a ddaeth i dalu y gymwynas olaf iddo, a'r teimlad a ddangosid, yn brawf amlwg fod cymydog da a pharchus wedi eiu gadael - un o'r hen sefydlwyr. Ychydig iawn ohonynt sydd yn aros ar ol. "Ein tadau, pa le y maent hwy?"

Ymddengys ei fod wedi ymuno â chrefydd pan yn ieuanc, yn yr Hen Wlad. Ac fel crefyddwr, meddai ar ragoriaetbau gwerth i'w hefelychu. Gwyddom hefyd fod ganddo yntau ei wendidau fel eraill; ac yr oedd ef yn ymwybodol o honynt, ac yn eu haddef gyda gofid. Yr oedd gor-ganmoliaeth am y marw yn gâs beth ganddo; felly, gwirioedd neu ddim oedd ei arwyddair ef. Ac onid oes gormod o ysbryd yr hen ddiareb Gymreig, " A fyno glôd, bid farw," yn ein plith ni fel cenedl? Buasai ef yn bur foddlawn i fabwysiadu syniad yr anfarwol Williams, Pant-y-celyn, yn ei Farwnad i Rowlands, Llangeitho:—

"Nid rhaid canu dim am dano,
Nid rhaid marble ar ei íedd."

Gwyddom i'n Gwaredwr wahardd yn bendant i'r rhai oedd wedi derbyn ffafrau oddiar ei law, i beidio ei wneud yn hysbys, a chadw hyny yn ddirgel; ond yr oedd eu calonau yn rhy lawn o gariad a diolchgarwch iddynt allu tewi. Mae yn wir fod pob dyn yn ffurfio ei gymeriad, ac yn ysgrifenu ei gofiant ei hunan, ac y mae dylanwad ei fywyd yn aros. Nid oes, yn yr ystyr yma, yr un yn byw iddo ei hun; ac fe erys y dylanwad er da neu ddrwg. Mae yr haul yn rhoddi ei oleuni a'i wres i'r ddaear bob dydd; ac wedi iddo ef fachludo, y mae'r lloer a'r sêr yn rhoddi i ni ychydig o'r goleuni a dderbyniasant, ac fel yn parhau y dylanwad, er yn wan. Felly y mae'r Cristion, fel y goleuni, yu llewyrchu fwy fwy hyd haner dydd. Ac wedi i haul bywyd fachludo, y mae y dylanwad yn aros. Y mae "coffadwriaeth y cyfiawn yn fendigedig." "Y mae efe, wedi marw, yn llefaru eto."

Yr oedd William Jones yn ffyddlon gyda chrefydd. Ni byddai ei le yn wag, os na byddai afiechyd yn ei atal; ac nid dyfod yno rywbryd, ond byddai ef yn brydlon. Bum yn synu wrth ei weled wedi dyfod drwy y tywydd a'r tywyllwch i'r cyfarfod gweddi a'r gyfeillach. Rhaid ei fod yn dwyn sel dros achos crefydd. Ac yr ydoedd bob amser yn barod i gymeryd rhan yn y moddion. Er nad ydoedd, yn y gyfeillach, yn meddu ar ryw brofiad uchel iawn, eto yr oedd bob amser yn ceisio dal ei hun yn ngwyneb y Beibl; teimlai ei wendid a'i lygredd, ac ofnai i anghrediniaeth gael yr oruchafiaeth arno. Y mae yn rhaid cael bywyd i fyned yu erbyn y llif; ond os na bydd bywyd, fydd ddim "marweiddio gweithredoedd y cnawd trwy yr Ysbryd." Mae lle cryf i ofni mai colli o'r eglwysi y mae yr hen ddull o adrodd profiadau, a'i fod yn colli hefyd yn ein bywyd. Onid peth dyeithr mewn cyfeillach, yw profiad o ymdrechfa galed yn erbyn pechod yn ei wahanol ffurfiau? A gollir ef gyda'r hen dadau? Ond trwy ffydd yr oedd yntau yu cael yr oruchafiaeth, fel y dywed y bardd Cymreig;

"Hen lais fy anghredinaeth
Yw taeru, o naturiaeth,
Na chaf ar bechod goncwest byth,
Na chyfan oruchafiaeth;
Ond ffydd sy'n ateb weithiau,
Er miloedd o gymylau,
Fod i ni eto obaith byw,
Mai meddwl Duw yw maddau."

Yr oedd William Jones yn weddiwr mawr - yr oedd yn syml fel plentyn pan yn anerch gorsedd gras. Hawdd oedd deall ei fod yn ymarfer â'r gwaith. Yr oedd yn dda genyf ei weled yn cael ei alw at y gwaith. Codai yn y fan, ac adroddai benill oddiar ei gof; ac os dygwyddai iddo gymeryd y llyfr hymnau, troai at y penill heb golli dim amser. A byddai yn dda pe byddai mwy o ddilyn ei esiampl yn hyn. Y mae colli amser i chwilio am benill yn oeri llawer ar y cyfarfod gweddi. Yr oedd yn teimlo yn awyddus iawn i weled llwyddiant cyffredinol ar yr Efengyl. Yr oedd yn teimlo dyddordeb arbenig yn nghyfarfod gweddi y nos Lun gyntaf o'r mis. Nid anghofiaf i yn fuan ei fywiogrwydd yn adrodd ei hoff benill -

"De'wch addewidion, de'wch yn awr,
Dyhidlwch eich trysorau i lawr;
Myrddiynau ar fyrddiynau sydd
Yn dysgwyl am y boreu ddydd."

Neu,

"Taened gweinidogion bywyd,"

Ac nid gofyn a chanu yn unig,—

"Aed efengyl, ar adenydd dwyfol wynt,"

ond yn barod i gyfranu at yr achos. Cyfranai o dan yr ystyriaeth mai dyma yr unig ffordd iddi i ehedeg. Gweddiai a chyfranai y brawd William Jones. Meddai barch mawr i'r Beibl. Yr oedd yn darllen llyfrau da eraill - yr oedd yn. hoff iawn o waith Gurnal. " Y Cristion Mewn Cyflawn Arfogaeth" a ddarllenodd yn fanwl drwyddo, ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth, ac yr oedd yn teimlo fod bod yn Gristion yn beth pwysig, ac yn gofyn ymdrech a difrifoldeb mawr. Ond y Beibl oedd ei briflyfr - yr oedd hwn wrth law bob amser ganddo ef yn barod. Dyma un o'r arwyddion goreu ei fod yn parchu Gair Duw, ac yn ymhyfrydu ynddo. Dyma ddangosir gan y Salmydd — yr ewyllys yn nghyfraith yr Arglwydd, ac yn myfyrio ynddi ddydd a nos. "Mor gu genyf dy gyfraith di, hi oedd fy myfyrdod beunydd." "Mor felus yw dy eiriau i'm genau; melysach na mêl i'm safn." Credwn y gallasai William Jones hefyd adrodd ei brofiad, a mynegu ei barch i'r Beibl, yn ngeiriau y bardd Cymreig, Eben Fardd :—

"Mae Gair fy Nuw yn werthfawr,
Gair dianwadal yw,
Ar hwn yr wyf yn pwyso,
Ac yn gobeithio byw;
Mae'r byd a'i bethau'n newid,
Ond Gair fy Nuw dilyth,
Yn hyn, y mae'n rhagori,
Nad yw yn newid byth."

Yr oedd y brawd William Jones yn haelionus at bob achos da. Mae haelioni yn un o brif ddyledswyddau crefydd, ac yr oedd ef yn y gras hwn yn helaeth; ac yn sicr, yr oedd yn ddedwydd yn ei weithred. "Anrhydedda yr Arglwydd â'th gyfoeth, ac â'r peth penaf o'th holl ffrwyth; felly y llenwir dy ysguboriau â digonoldeb, â'th winwryfoedd a dorant gau win newydd." Felly am dano yntau.

"Bu gwenau glân rhagluniaeth
Ar waith ei ddwylaw ef,
Ca'dd ddigon ar y ddaear,
Caiff ddigon yn y nef;
Ac er cyfranu'n helaeth
I eraiìl ar ei ol,—
Gadawodd i'w hen weddw
Gyflawnder eto'n ol."

Gadawodd gan' dolar i'r Gymdeithas Feiblaidd, a chant i'r Gymdeithas Gennadol. Heddwch i'w lwch; ac amddiffyniad Duw fyddo dros ei weddw yn ei hunigedd, ei gwendid, a'i henaint. Gwyr trwy brofiad pa le i droi. Noddfa yn amser trallod yw Duw.

Y CENHADWR AMERICANAIDD ~ MAI 1881.