MRS. ANN MORRIS, NINETY-SIX, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mawrth 23ain, 1880, o'r drydedd ddyrnod o'r apoplexy, yn ei 62 mlwydd o'i hoedran, Mrs. Ann Morris, priod y diweddar Evan Morris, Ninety-six, Remsen, Efrog Newydd.

Daeth i'r wlad hon ychydig dros ddeugain mlynedd yn ôl o Lleyn, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Ymbriododd â Mr. Evan Morris, ac ymsefydlasant yn Ninety-six, ac yno y buont yn byw flynyddau lawer. Bu iddynt 5 o blant, oll o ba rai sydd yn fyw i alaru ar ôl eu hoffus fam.

Bu ein chwaer yn proffesu crefydd flynyddau lawer, ac yr oedd achos Duw a'i lwyddiant yn agos iawn at ei meddwl, a mawr hyderai yn ei gylch. Byddai yn cael llawer o bleser crefydd, a daliodd gyda chrefydd hyd y diwedd. Yr oedd dyrnodiau yr apoplexy mor drymion, fel na chafwyd ond ychydig iawn ganddi am ei phrofiad diweddaf; ond cafwyd digon i brofi ei bod yn pwyso ei henaid ar Grist am fywyd.

Rhyw dair blynedd yn ôl symudodd Mrs. Morris o Ninety-six i Prospect, a bu yn ffyddlon iawn yno gydag achos Duw, a theimia y cyfeillion yno golled fawr ar ei hol.

Claddwyd hi wrth ochr ei phriod yn mynwent Fairchild, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan y brodyr E. R. Hughes, Steuben yn Gymraeg, a Trogwy Evans, Remsen, yn Seisnig.

Duw a fendithio ei phlant amddifaid, yn enwedig ein chwaer ieuanc, ei hunig ferch, yn ei gwaeledd.
R. EVANS.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Awst 1880.