MRS. JANE PARRY, FRENCH ROAD, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Ganwyd Jane Parry yn 1801 yn ardal Pwllheli Gogledd Cymru.Ymfudodd i America yn 1823, sefydlodd yn Steuben yn ardal Sixty ac ymhen tua deng mlynedd symydodd i ardal French Road yn Remsen.
Gwraig Evan Parry (1800-1887), yn wreiddiol o Langwnadl, Sir Gaernarfon. Ganwyd iddynt unarddeg o blant, a bu rhai o flaen eu rhieni.
Bu farw Jane ar 18ed Awst, 1880. Bu Evan Parry farw ar 20fed Ebrill, 1887, yn 86 mlwydd a 4mis oed.
Mae'n ddiddorol gweld mai'r cyfenw Perry sy'n cael ei ddefnyddio yn aml ar ôl i'r teulu ymfudo.
Glyn Roberts ~ Awst 2021.
MRS. JANE PARRY, FRENCH ROAD, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Awst 19eg, 1880, yn French Road, New York, yn 79 mlwydd oed, bu farw Mrs. Jane Parry, anwyl briod Mr. Evan Parry, o'r lle uchod.Er fod Mrs. Parry wedi cyrhaedd oedran mawr, yr oedd ei marwolaeth yn annysgwyliadwy i'w theulu galarus, ac i'r gymydogaeth yn gyffredinol, oblegid ni bu yn wael ond ychydig dros wythnos cyn bod ei hysbryd wedi hedfan ymaith. Yr oedd Mrs. Parry wedi ei geni a'i magu gerllaw Pwllheli yn Sir Gaernarfon.
Ymbriododd yn ei bro enedigol gyda Mr. Evan Parry yn y flwyddyn 1823, a daethant ill dau yn fuan wedi hyny i'r wlad hon, gan ymsefydlu yn Swydd Oneida, lle y buont yn byw gyda eu gilydd am 57 o flynyddoedd yn mhlith cymydogion sydd erbyn hyn gan mwyaf wedi eu rhifo yn mhlith y meirw.
Yn y flwyddyn 1830 ymunodd Mrs. Parry gyda yr achos crefyddol yn eglwys y M. C. yn Penygraig, ond yn fuan wedi hyny symudodd i ardal French Road i fyw, lle y treuliodd weddill ei hoes gan ddal cyffes ei gobaith yn ddisigl hyd y diwedd. Tystioiaeth unfrydol hen frodyr a chwiorydd oeddynt yn adnabod Mrs. Parry er boreu ei hoes ac yn mlodau ei dyddiau yw, ei bod yn hynod ddichlynaidd yn ei bywyd crefyddol - yn ffyddlawn a gweithgar gyda'r achos bob amser, ac yn llawn caredigrwydd at ei chymydogion, ac yn neilltuol at bobl yr Arglwydd, a'i thy bob amser yn agored fel cartref i weinidogion yr efengyl, ac felly y parhaodd hyd ddiwedd ei hoes.
Yn ngwyneb henaint a gwaeledd parhâi i ddilyn moddion gras yn gyson, ac i feithrin profiad iraidd o fendithion a chysuron crefydd hyd y diwedd, fel ag yr oedd yn amlwg ei bod yn addfedu yn gyflym i wlad sydd well. Yn ei chystuád olaf siaradai lawer am grefydd gyda'i phriod hoff a'i theulu serchog. Rhoddai iddynt gyngorion gwerthfawr a chymellion dwys i fywyd mwy duwiol, a gadawodd dystiolaeth eglur ar ei hol fod yr Hwn y gobeithiasai ynddo ar hyd ei hoes yn abl i'w chadw yn yr awr ddiweddaf. Adroddai yn aml yr hen benill hwnw -
"Pa'm carai'r byd a'i wagedd mwy?
Hyd angeu'n brin y deuant hwy;
Gwell i mi garu'r ffrynd a ddaw
Yn angeu i ymaflyd yn fy llaw."
Mae y brawd Mr. Evan Parry wedi colli cydymaith ei fywyd yn ei hen ddyddiau, a'r teulu galarus wedi colli mam ofalus a duwiol, oedd yn gweddio llawer drostynt; ond yn ngwyneb y brofedigaeth chwerw mae ei Duw hi i'w gael yn Dduw iddynt hwythau yn mhob cyfyngder a thrallod. Rhodded Duw i'r teulu oll ddyddanwch ei iachawdwriaeth.
Cymerodd yr angladd le ddydd Sadwrn, Awst 21ain. Daeth torf fawr yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddi. Gweinyddwyd wrth y tŷ a phregethwyd yn y capel gan y Parchn. David Williams ac E. C. Evans, Remsen, ac wedi hyny claddwyd ei gweddillion marwol yn mynwent French Road.