MR. HUGH HUGHES, ST. CLAIRS, PENNSYLVANIA.

Mr. Hugh E. Hughes, St. Clairs, Pennsylvania, yn ddiweddar o Gymru. Mab ydoedd i Evan a Jane Hughes - y cyntaf o blwyf Llanhaelhaearn, a'r olaf o blwyf Pen-y-morfa, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru. Cyn belled ag yr ydwyf fi yn cofio, yn yr olaf, yn Rhagfyr, 1816, y ganed Hugh, mewn lle a elwir Aberdunant, ger Tref Madog., ac y lle hwnw fe'i cyflwynwyd i Eglwys Dduw, trwy ei fedyddio yn enw y Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glan, gan y Parch. Michael Roberts, Pwllheli, (T. C.,) ac yn y man hwnw y'i magwyd yn ofalus, ac y'i hegwyddorwyd yn iachus.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mai 1846.