MR. ROBERT L. ROBERTS. ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Rhagfyr 24ain, 1880, yn Rome, New York, Mr. Robert L. Roberts, yn 67 mlwydd oed.

Ganwyd ef yn Maentwrog, ac yr oedd yn un o bump o blant. Mae ganddo ddau frawd a chwaer yn fyw yn yr Hen Wlad - un yn weinidog gyda'r Bedyddwyr yn Penrhyndeudraeth.

Bu ei rieni farw pan oedd yn lled ieuanc. Ymunodd â chrefydd pan oedd yn 19 mlwydd oed yn yr eglwys Annibynol yn Coed Bach, o dan weinidogaeth y Parch. Thomas Davies.

Ymunodd mewn priodas â Miss Jennie Morris, merch i Richard a Margaret Morris, Trawsfynydd, a bu iddynt saith o blant, un o'r rhai a fu farw. Mae ganddynt ddau fab a phedair merch yn fyw. Mae un o'r meibion yn California er's amryw flynyddau. Symudasant i'r wlad hon yn y flwyddyn 1842, a buont yn cydfyw gyda'u gilydd am 46 o flynyddau. Yr oeddynt yn dyfod dros y mor yn yr un llong a'r hen dad y Parch. Edward Rees (T. C.). Sefydlasant am dymor yn Deerfleld, New York, a buont yn aelodau yn eglwys Utica pan oedd y Parch. James Griffiths yn weinidog. Bu ei symudiadau yn y wlad hon yn lled ami - o gylchoedd Utica i Nelson, Madison County, lle y trigiasant am 17 0 flynyddau, yn mwynhau gweinidogaeth y Parch. John Lloyd a'r Parch. Cadwalardr Jones, ac oddi-yno daethant i Rome, ar ffarm fechan yn agos i'r ddinas, lle y buont am bedair blynedd ar ddeg.

NI fu Mr. Roberts yn sal ond wythnos, er nad oedd yn iach iawn er's rhai blynyddau. Ei salwch oedd typhoid pneumonia. Teimlir colled fawr ar ei ôl fel priod o thad tyner, ac mae y eglwys yn teimlo ei cholled mewn llawer ystyr. Yr oedd yn ddiacon er's amryw flynyddoedd, yn un o'r trustees, ac wedi bod yn arolygwr yn yr Ysgol Sul am dymorau. Yr oedd el tystiolaeth a'i ffydd pan yn ei gystudd yn uchel ddywedyd fod ei grefydd yn talu yn dda yn y bwlch cyfyng yr oedd ynddo. Adroddodd ranau o'r Belbloedd yn dwyn cysur i'w feddwl yn ei gystudd blin. Adroddodd lawer wrth ei anwyl ferched pan oeddynt yn gweini arno, am werth a gogoniant crefydd. Nid oeddynt yn foddlon iddo ymddyddan llawer, rhag y byddai hyny yn effeithio er ei wneyd yn waeth. Yr ydym yn credu fod ei obaith yn dal yn gadarn pan oadd yn marw.

Y dydd Llun canlynol ymgasglodd tyrfa fawr i dalu y gymwynas olaf iddo, pryd y darllenwyd ac y gweddiwyd yn y tŷ ac yn y capel ar Court Street gan y Parch. J. R. Griffiths, Floyd, ac y pregeth wyd yn fyr yn Gymraeg gan y Parch. D. E. Pritchard, ac yn Saesneg gan y Parch. John H. Jones (T. T.). Wedl hyny hebryngwyd el weddillion marwol i fynwent sydd rhwng Floyd a Rome, i orphwys hyd foreu mawr y dydd diweddaf. Sabboth y 16eg, pregethwyd pregeth angladdol oddiwrth y geiriau sydd yn y Philippiaid 1. 28.

Yr amddiffyn mawr a fyddo ar ei weddw a'i blant amddifad. Yr Arglwydd a fyddo yn farnwr i'r weddw ac yn dad i'r amddifad. Dros y teulu galarus,
D. E. PRITCHARD.

Y Drych ~ Chwefror 3ydd 1881.