MRS. JANE ANTHONY. PITTSTON, PENNSYLVANIA.

Mawrth 1af, 1881, yn Pittston, Pennsylvania., Mrs. Jane Anthony, priod David Anthony, Ysw., ffyddlon oruchwyliwr y DRYCH er's blynyddau lawer.

Yr oedd Mrs. Anthony yn ferch i Griffith a Jane Owen, Cefn Goch, Llanegryn, Gogledd Cymru lle y ganwyd hi yn 1823.

Priodwyd hwy yn nghapel y Wesleyaid, Tredegar, De Cymru, yn 1846, y Parch. D. Lewis y gweinidog yn gweinyddu.

Daeth Mr. Anthony i America yn 1852, yn mhen dwy flynedd a haner ar ôl hyny daeth ei briod a'u plant ar ei ôl. Bu Iddynt 13 o blant - nid oes ond pedwar o honynt yn fyw, dau fab a dwy ferch. Y mae y merched wedi priodi gyda dynion parchus, ac yn byw yn Pittston.

Cafodd Mrs. Anthony gystudd maith; ond cafodd bob gofal ac ymgeledd posibl roddi iddi gan y meddygon goreu, gan ei theulu a'i chymydogesau.

Er nad wyf am i neb feddwl mai angyles ddifai oedd Mrs. Anthony - yr oedd ganddi fel pawb ohonm ei cholliadau - eto gellir dywedyd fod ynddi lawer o bethau oedd yn dda. Un garedig iawn oedd hi. Ystyrid hi gan ei chyfeillion yn gymydoges dda, garedig a chymwynasgar iawn; buasai yn foddlon myned yn mhell o'i ffordd i wneyd tro da i bwy bynag y buasal hi yn teimlo yn dda tuag atynt. Yr oedd ganddi hi "ei ffordd," fel y dywedir, ac wedi deall el ffordd hi yr oedd yn hynod gywir a ffyddlon. Yr oedd yn hoff iawn o'i phlant, ac yn foddlon aberthu llawer er eu mwyn. Dynes "blaen" oedd hi, nid oedd digon o gyfrwysdra yn ei natur i guddio ei meddwl a'i theimlad am neb na dim. Yr oedd yn hollol unplyg a gonest, heb feddu ond un gwyneb a natur heb fymryn o ragrith na chyfrwysdra. Fe allai ei Bod yn rhy blaen, a bod hyny wedi gwneyd rhai yn elynion iddi.

Claddwyd hi dydd Gwener y 4ydd yn mynwent yr Odyddion. Er fod y tywydd yn arw iawn, daeth llawer o babl ynghyd o Pittston, Hyde Park, Scranton, Plymouth, a.y. i hebrwng ei gweddillion i'r bedd. Cafodd angladd barchus. Ni arbedodd ei phriod drafferth na chost i gladdu mam ei blant yn deilwng o'i sefyllfa.

Gweinyddwyd gan y Parchn. E. B. Lewis, Hyde Park, a John Williams, Pittston.

Y Drych ~ Mawrth 17eg 1881.