MR. JOHN DAVIES. STATE STREET, COLUMBUS, OHIO.
Ebrill 19eg, 1881, yn Columbus, Ohio, John Davies, State St.Genedigol o blwyf Towyn, Meirion, Gogledd Cymru, mewn ffermdy o'r enw Bryn Castell. Daeth i America 30 o flynyddoedd yn ôl, a bu yn preswylo mewn amryw leoedd yn y wlad hon dros tro, ond yn Columbus am lawn 25 o flynyddoedd. Boiler maker oedd ei celfyddyd.
Yr oedd yn ddyn crefyddol yn ystyr gyflawnaf y gair trwy ei oes. Dechreuodd broffesu crefydd yn Llanegryn pan yn ieuanc, a chwanegodd gryfder a defnyddioldeb hyd ei farwolaeth. Hynod oedd ei ffyddlondeb i ddyfod i'r ysgol, y cyfarfod gweddi a'r cyfeillach, fel i'r bregeth; ond Ow! er ein chwithdod, mae lle John Davies yn wag. Llanwodd y swydd ddiaconaidd yn anrhydeddus yn yr eglwys Cynulleldfaol Cymrelg am flynyddoedd lawer. Wedi cystudd byr am gwpwl o wythnosau, bu farw mewn llawn sicrwydd gobaith. Un o felbion tangnefedd oedd trwy ei oes, ac efe a aeth i dangnefedd.
Cafodd gladdedigaeth hynod barchus, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. Jones, Delaware, Hirst, M. E. Church, a gweinidog yr eglwys, yr hwn a bregethodd ei bregeth angladdol y Sabboth canlynol oddiar ei ymadroddiad olaf wrth ei weinidog, "Gan fod genyf chwant i ymddatod a bod gyda Christ"— Phil. 1. 23. Sain ei gymydoglon oedd - "Wele Israellald yn wir." Gellir dysgwyl ychwaneg am y dyn da hwn yn y dyfodol.